Punxsutawney Phil
- Cyhoeddwyd
Rwy'n sgwennu'r geiriau yma ar Chwefror yr ail - y diwrnod a anfarwolwyd yn y ffilm Groundhog Day. Ie, heddiw oedd y dyddiad yr oedd Bill Murray yn gorfod byw drwyddo drosodd a thro gan gwrdd â'r un hen bobol a chlywed yr un hen bethau dro ar ôl tro.
Afraid yw dweud efallai bod 'na elfen felly i newyddiaduraeth wleidyddol ar hyn o bryd. Brexit a Trump, Trump a Brexit sy'n dominyddu rownd y rîl a does 'na ddim arwydd y bydd pethau'n newid yn y dyfodol agos. Mae meddwl ar rywbeth ffres neu ddifyr i ddweud am y naill na'r llall y tu hwnt i mi'n aml ond mae un frawddeg fach o Bapur Gwyn Brexit llywodraeth Prydain wedi fy nharo. Dyma hi.
"Whilst Parliament has remained sovereign throughout our membership of the EU, it has not always felt like that."
Nid fi yw'r unig un i sylwi ar y frawddeg fach honno. Mae llawer o watwar wedi bod yn ei chylch. Oedd a wnelo'r holl ddadlau yna ar hyd y degawdau â dim mwy na theimlad? Pam oedd angen dychwelyd 'contrôl' i San Steffan os oedd y 'contrôl' hwnnw wedi bod yn nwylo San Steffan drwy'r amser?
Mae'r feirniadaeth braidd yn annheg yn fy marn i. Mae'r frawddeg yn dechnegol yn gywir ac Erthygl 50 yw'r prawf o hynny. Yn anad dim yr hawl i adael yw maen prawf sofraniaeth. Gan nad oes gan yr Undeb Ewropeaidd yr hawl i rwystro'r Deyrnas Unedig rhag gadael - y Deyrnas Unedig, nid yr undeb, sy'n sofran.
Ond arhoswch eiliad. Does dim un gwleidydd na sylwebydd cyfansoddiadol y gwn i amdano yn dadlau nad oes gan Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac, o ran hynny, Lloegr yr hawl i adael yr hyn mae'r papur gwyn yn disgrifio fel "the world's most successful and enduring multi-nation state" y Deyrnas Unedig, hynny yw.
O ddilyn rhesymeg y Papur Gwyn felly mae'r pedair cenedl yn sofran er eu bod yn aelodau o'r Deyrnas Unedig yn yr un modd ac mae'r Deyrnas Unedig yn sofran er ei haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
Os felly sut ar y ddaear mae esbonio'r frawddeg yma o ragair y Prif Weinidog i'r Papur Gwyn?
"One of the reasons that Britain's democracy has been such a success for so many years is... the strength of our identity as one nation."
Nid hwn yw'r tro cyntaf i mi ddweud hyn ond hen beth llithrig yw sofraniaeth!