Arian yn y banc
- Cyhoeddwyd
Pwnc sy'n codi ei ben yn gyson y dyddiau hyn yw'r problemau sy'n cael ei hachosi wrth i fanciau gau canghennau ar hyd a lled Cymru.
Nid broses newydd yw hon wrth gwrs ac mae'r cwynion ynghylch colli gwasanaethau bancio yn dyddio yn ôl i ddyddiau cynnar y Cynulliad. Does dim arwydd bod y cwynion hynny wedi cael effaith ar benderfyniadau'r banciau a, chan nad yw rheoleiddio banciau wedi ei datganoli, mae'r Llywodraeth wedi canolbwyntio ar gymell Swyddfeydd Post i gynnig gwasanaethau bancio a datblygu'r rhwydwaith o Undebau Credyd.
Ateb Plaid Cymru i'r broblem yw sefydlu banc cyhoeddus i Gymry, tebyg i'r rheiny sy'n bodoli ar gyfandir Ewrop. Mewn dadl Cynulliad yr wythnos hon roedd 'na gefnogaeth eang i'r syniad. Ond nid ar chwarae bach y byddai fenter o'r fath yn cael ei sefydlu a go brin y byddai'n cynnig ateb tymor byr i gymunedau sy'n colli eu banciau ar hyn o bryd.
Mae 'na un posibilrwydd arall y gellid ei ystyried pe bai banc neu gymdeithas adeiladu yn fodlon cydweithredu sef sefydlu'r hyn a elwir yn ganghennau cymunedol.
Banc Bendigo yn Awstralia sydd wedi arloesi yn y maes hwn. Wrth i gymuned golli ei banciau mae Bendigo yn camu mewn i fanteisio ar y sefyllfa trwy ffurfio partneriaethau â grwpiau cymunedol. Mae'r banc yn darparu'r seilwaith cyfrifiadurol ac ariannol ond bwrdd lleol sy'n gyfrifol am redeg y gangen a sicrhau ei bod yn talu ei ffordd. Rhannir unrhyw elw rhwng y banc a'r gymuned.
A allai'r fath drefn weithio yng Nghymru? Hyd y gwelaf i, does 'na ddim rheswm na ddylasai hi. Ond, fel dywedodd sawl un wnaeth siarad yn y ddadl, mae angen tipyn o ddychymyg ac ysbryd o fenter wrth fynd i'r afael a phroblem y banciau coll.