Sylfaenydd Cymdeithas yr Iaith, Gareth Miles, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gareth MilesFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Mae'r awdur ac un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Gareth Miles, wedi marw yn 85 oed.

Yn enedigol o Gaernarfon, cafodd ei fagu ym mhentref cyfagos Waunfawr cyn ymgartrefu ym Mhontypridd.

Bu'n athro Saesneg a Ffrangeg mewn ysgolion yn Amlwch, Wrecsam a Dyffryn Nantlle cyn dod yn drefnydd cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC).

Fe gyhoeddodd sawl cyfrol ac fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008 am ei nofel Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn 2003 fe ddywedodd mai Karl Marx oedd y person oedd yn ei edmygu fwyaf "am iddo'n fwy na neb ein galluogi i ddeall y byd modern a'i gymhlethdodau, ac oesau blaenorol hefyd".

Disgrifiad,

Dywedodd Meic Birtwistle fod Gareth Miles "eisiau dangos Cymru i'r byd".

Daeth Meic Birtwistle i adnabod Gareth Miles fel swyddogion o'r un grŵp o undebau llafur, a diddordeb a chefnogaeth i wleidyddiaeth adain chwith.

"Mae Gareth wedi bod yn gymaint o ffigwr canolog o ran gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt," meddai.

"Oedd e'n undebwr o'i gorun i'w sawdl. Llais synhwyrol ond pendant oedd gyda fe bob tro.

"Rhyng-genedlaetholwr oedd e, a Marcsiaeth oedd ei gred.

"Yn ei waith fel awdur, gwleidydd ac undebwr oedd e am ddangos Cymru i'r byd a'r byd i Gymru."

'Rhan annatod o'n gweledigaeth hyd heddiw'

Fe ddaeth Ffred Ffransis, ymgyrchydd oes Cymdeithas yr Iaith, yn rhan o'r mudiad o dan gadeiryddiaeth Gareth Miles rhwng 1967 ac 1968.

"Bu'n arwain mewn dull amhrisiadwy trwy siarad ac annog aelodau ifainc newydd," meddai.

"Fo yn bennaf oll roddodd y sicrwydd i ni i gyd fod y frwydr dros y Gymraeg yn rhan o frwydr ehangach fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol, a rhoi pobl o flaen buddiannau corfforaethol.

"Mae ein dyled yn enfawr iddo."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cymdeithas yr Iaith

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cymdeithas yr Iaith

Ychwanegodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robat Idris: "Heblaw am ei gyfraniad fel sylfaenydd a chadeirydd, Gareth Miles gyflwynodd ac a wreiddiodd y syniad sy'n dal i redeg trwy waith y Gymdeithas, bod brwydr yr iaith yn annatod i gyfiawnder cymdeithasol ac yn rhan o'r frwydr fyd-eang yn erbyn grym imperialaidd a chyfalafol.

"Mae hynny'n rhan annatod o'n gweledigaeth ni hyd heddiw.

"Mae'n golled i'r mudiad cenedlaethol, y mudiad sosialaidd a'r chwith yng Nghymru, ond yn bennaf oll mae'n golled i'r teulu."

Dywedodd Dafydd Iwan ar wefan X - Twitter gynt: "Trist clywed am farw un o arweinyddion y chwyldro tawel, Gareth Miles.

"Coffa da amdano, a chariad mawr at Gina a'r teulu."

'Cariad at yr iaith ac at Gymru'

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, Heledd Fychan, fod "Gareth yn ladmerydd cryf a digyfaddawd dros y Gymraeg, ac roedd ei gyfraniad i'w hyrwyddo a'i phrif ffrydio yn amhrisiadwy".

"Roedd gan Gareth nid yn unig gariad at yr iaith ond cariad at Gymru hefyd ac rydym yn cydymdeimlo â'i deulu a'i gyfeillion yn eu colled."