Wec ffaldiral

  • Cyhoeddwyd

Dydw i ddim wedi aros i Carwyn Jones fod mas o'r wlad cyn sgwennu'r post yma - onest!

Nid fi yw'r un sy'n siarad y tu ôl i gefn Carwyn ond rhai o aelodau a panjyndryms ei blaid sydd â'u meddyliau'n troi at y cwestiwn o bwy fydd yn ei olynu pan ddaw'r amser. Nid bod Carwyn ar fin rhoi'r tŵls ar y bar. Does neb yn disgwyl iddo arwain ei blaid i mewn i etholiad 2020 ond yr amser amlwg iddo fynd yw yn 2019 ar ôl degawd yn y swydd. Fe fyddai hynny'n gadael rhyw chwe mis i flwyddyn i bâr glân o ddwylo sefydlu ei hun ym meddyliau'r cyhoedd.

Ond eiddo pwy fydd y dwylo ac, yn bwysicach efallai, sut fydd fe neu hi'n cael ei ddewis?

Mae'n ffaith fach ryfedd nad oes gan Lafur Cymru unrhyw fath o gyfansoddiad na llyfr rheolau. Sail ei bodolaeth yw un cymal bach yn rheolau'r blaid Brydeinig sy'n datgan fel a ganlyn.

In Scotland, Wales and each of the English regions there shall be established: a Scottish Labour, Wales Labour or regional Party office; a Scottish executive, Welsh executive or regionalboard; and a European Constituency LabourParty. There may also be established a Scottish,Welsh or regional women's committee and a regional BAME members' section.

Pan ddaw'r amser i ethol arweinydd Cymreig newydd felly mae llwyth o rym yn nwylo'r pwyllgor gwaith Cymreig neu'r WEC fel mae'n cael ei adnabod. Chwi gofiwch efallai am rôl y pwyllgor hwnnw yn braenaru'r tir ar gyfer ethol Alun Michael yn arweinydd y blaid Gymreig.

Nawr, gan fod y WEC o hyd yn gadarn yn nwylo barwniaid y blaid gallwch fentro y bydd popeth posib yn cael ei wneud i rwystro'r chwith rhag cipio'r arweinyddiaeth a'r ffordd fwyaf amlwg yw cyflwyno trothwy enwebiadau ar gyfer yr ornest, tebyg i'r un wnaeth bron rwystro Jeremy Corbyn rhag cael ei enwebu ar gyfer yr arweinyddiaeth yn 2015.

Gan taw dim ond dau Gorbynista go iawn sy 'na yn y Cynulliad sef Mick Antoniw a Mike Hedges fe ddylai trothwy o 15% o'r grŵp Cynulliad fod yn ddigon i rwystro'r naill na'r llall rhag cael ei enwebu.

Dyw'r chwith ddim yn ddall i'r cynllwynio sy'n mynd ymlaen wrth gwrs.

Ar lefel Brydeinig gallwn ddisgwyl cythraul o ffrae yng nghynhadledd y blaid eleni wrth i'r chwith geisio cael gwared ar y trothwy seneddol. Ar ôl hynny fe fydd y frwydr yn symud i Gymru a gallwn ddisgwyl gwaed ar y muriau cyn ei diwedd.

Pwy bynnag sy'n ennill y frwydr gyfansoddiadol, yr enw sy'n cael ei grybwyll amlaf fel darpar arweinydd y dyddiau hyn yw Mark Drakeford, ymgeiydd a allasai fod yn dderbyniol i'r hen stejars a'r newydd ddyfodiaid