Heno bydd yr adar yn canu

  • Cyhoeddwyd

Dros y Sul fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cynnal eu cynhadledd flynyddol ac mae'r ffaith bod hi'n cael ei chynnal mewn neuadd ysgol yn arwydd o ba mor simsan yw sefyllfa'r blaid ar hyn o bryd.

Nid bod Ysgol yr Esgob Gore yn Abertawe yn unrhyw hen ysgol. Mae'n dyddio yn ôl i'r ail ganrif ar bymtheg ac mae'n fêl ar fysedd y newyddiadurwyr fydd yn y gynhadledd mai yn yr ysgol hon y derbyniodd Dylan Thomas ei addysg. 'Do not go gentle', 'Rage, rage against the dying of the light', 'yn ôl fy arfer Arglwydd mawr'... mae'r penawdau'n ysgrifennu eu hun!

Ond, ar ôl cael ychydig bach o hwyl ar eu pennau, mae 'na ambell i arwydd nad yw'r hen barot cweit mor gelain ac roedd rhan fwyaf ohonom yn credu. Mae'r arolygon barn o hyd yn arswydus o wael gyda'r gefnogaeth yn hofran o gwmpas wyth y cant ond mewn isetholiadau seneddol a chyngor mae 'na arwyddion bod y blaid yn magu grym.

Yn y pum isetholiad seneddol diwethaf sef Whitney, Richmond Park, Sleaford, Copeland a Stoke y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr unig blaid i gynyddu ei siâr o'r bleidlais. Yn achos Richmond Park, wrth gwrs, fe lwydwyd i gipio'r sedd.

Yr adfywiad bychan hwn yw un o'r ffactorau sy'n fy argyhoeddi bod Theresa May o bosib wedi gwneud camgymeriad difrifol trwy beidio â galw etholiad cynnar.

Mae'n werth i ni gofio yn fan hyn nad llwyddiant yr SNP yr Alban yn 2015 oedd yn gyfrifol am y ffaith na chafwyd senedd grog yn yr etholiad hwnnw. Mae'r aelodau Albanaidd o hyd ar feinciau'r gwrthbleidiau wedi'r cyfan. Buddugoliaethau'r Ceidwadwyr dros y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Lloegr oedd yn bennaf gyfrifol am fwyafrif David Cameron ac mae gafael y Torïaid ar nifer o'r seddi hynny yn fregus a dweud y lleiaf.

Fe fyddai hyd yn oed adfywiad bychan gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn golygu y byddai'n rhaid i'r Ceidwadwyr gipio seddi gan Lafur i gadw ei mwyafrif. Gallai hynny brofi'n hawdd os ydy Llafur yn parhau yn ei thrallod presennol ond pwy a ŵyr pwy fydd yr arweinydd a beth fydd sefyllfa'r blaid honno ymhen tair blynedd?

Gallasai Theresa May ddarganfod, fel Jim Callaghan a Gordon Brown o'i blaen, nad yw pwyll bob tro yn rhinwedd mewn gwleidyddiaeth neu fel dywedodd Dylan "when one burns one's bridges, what a very nice fire it makes."