Metrosbonio
- Cyhoeddwyd
Ar Fai'r cyntaf eleni fei fe fydd hi'n ugain mlynedd ers ethol Tony Blair yn Brif Weinidog ac yn ddiweddarach eleni fy fyddwn yn nodi bod 'na ddau ddegawd wedi mynd heibio ers y refferendwm wnaeth arwain at sefydlu'r Cynulliad.
I atgoffa fy hun o ddigwyddiadau a throeon trwstan y cyfnod rwyf wedi bod yn ail-ddarllen "1997 Sut oedd hi i ti" casgliad o argraffiadau o'r flwyddyn nodedig honno a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch. Fel y byddech yn disgwyl mewn llyfr Cymraeg mae'r ymatebion i ganlyniad y refferendwm i gyd yn gadarnhaol ond yn amrywio o'r gorfoleddus i'r pwyllog. Gwynfor Evans sy'n gorfoleddu ac Islwyn Ffowc sy'n mynegi pwyll yn y ddau ddyfyniad yma.
"Nid yw'n ormod dweud bod bywyd cenedlaethol yr henwlad hon bellach yn ddiogel ac y gwelir Cymru'r dyfodol yn sylweddoli rhan dda o'i phosibiliadau enfawr"
" Ydi Cymru'n debyg i genedl o'r diwedd? Wel mae'n debycach, ond nid hunanlywodraeth yw Cynulliad. Mae taith hir ac anodd eto o'n blaen"
Cewch chi benderfynu pwy oedd agosaf at y gwir ond rwy'n fodlon mentro na fyddai Gwynfor nac Islwyn Ffowc wedi darogan y byddai 'na refferendwm ynghylch aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd mhen ugain mlynedd ac y byddai'r bleidlais honno'n effeithio'n fawr ar y canfyddiad o Gymru ymhlith y dosbarth gwleidyddol Prydeinig.
Yn wir gellir dadlau fod pleidlais Cymru dros Brexit i raddau wedi dadwneud y canfyddiad o Gymru fel cenedl ar wahân i Loegr, canfyddiad a dyfodd yn sgil refferendwm 1997.
Cymerwch yr erthygl yma, dolen allanol gan Paul Mason un o newyddiadurwyr mwyaf dylanwadol y chwith fel esiampl. Darn ynghylch ymwybyddiaeth Seisnig yw hi sy'n trafod beth fyddai'n digwydd i'r ymwybyddiaeth honno pe bai'r Alban a Gogledd Iwerddon yn dewis gadael y Deyrnas Unedig.
Mae Paul yn dadlau drôn cynulliadau rhanbarthol yn Lloegr ond ymddengys ei fod mwy neu lai wedi anghofio am fodolaeth Cymru fach nes i ni gyrraedd diwedd yr erthygl lle ceir y frawddeg hon.
That is the best way of representing the separate regional identities of the English, and of allowing Wales to participate as an equal to the other regions, rather than as an appendage to Great England.
Nawr medraf ddweud hyd sicrwydd nad ydych chi wedi diod ar draws y gair 'metrosbonio' o'r blaen gan fy mod newydd ei fathu! Cyfieithiad yw e o 'metrosplaining' gair yr Albanwyr am newyddiadurwyr o Lundain yn dweud eu dweud am wleidyddiaeth y wlad honno.
Mae erthygl Paul yn enghraifft berffaith o hynny pan ddaw hi at Gymru gyda'r awdur yn awgrymu y byddai hi'n rhiw fath o fraint i Gymru gael ei thrin ar yr un telerau a rhanbarthau Lloegr.
Mewn un ystyr mae'r sylw ond yn brawf bod y rheiny sy'n lapio eu hun yn y faner goch yn gallu bod yr un mor gibddall i Gymreictod a'r rheiny sy'n chwifio jac yr undeb ond cwestiwn arall sy gen i heddiw.
A fyddai Paul wedi ysgrifennu'r frawddeg yn a pe bai Cymru wedi pleidleisio'n wahanol yn y refferendwm Ewropeaidd? Go brin.