Tanio Erthygl 50: Camu ymlaen?

  • Cyhoeddwyd
Cerflun

Camu 'mlaen?

Mae 'na gerflun y tu allan i swyddfeydd yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel o'r enw Camu 'mlaen.

Cerflun o ŵr ag un droed o flaen y llall a dim byd ond awyr iach o dan y droed flaen.

Symbol o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn camu ymlaen yn bwrpasol gyda'i gilydd efallai, ond pa mor sicr ei gam fydd yr undeb wrth i Brydain adael?

O'n safbwynt ni ar yr ynysoedd yma, a fydd gadael yr undeb yn gam ymlaen neu'n gam gwag?

Wrth gwrs ro'n ni'n gwybod bod tanio Erthygl 50 ar droed ers tro, y cwestiwn nawr yw beth yw'r cam nesa?

Bargen deg?

Mae 'na ddwy flynedd i drafod amodau gadael a rhai eisoes yn amau a fydd hynny'n ddigon.

Y gost a hawliau dinasyddion Ewrop i aros ym Mhrydain sydd ar frig yr agenda ym Mrwsel.

Eisoes mae 'na sôn bod yr undeb eisiau dros £50bn gan Brydain.

Mae hynny'n cynnwys gwariant ar gynlluniau ry' ni eisoes wedi ymrwymo iddyn nhw a'n cyfraniad ni at bensiynau gweithwyr yr undeb.

Mae hynny'n bris teg yn ôl y newyddiadurwr o Frwsel Dafydd ab Iago.

"D'ach chi ddim yn ysgaru ac wedyn ddim yn talu dim byd, mae'n rhaid talu," meddai.

Disgrifiad,

Yn ôl Dafydd ab Iago ni fydd pob cynllun gafodd arian Ewropeaidd yn dod i ben unwaith y bydd Prydain yn gadael

Felly pa mor llawdrwm fydd Brwsel ar Brydain?

"Byddwn ni'n deg heb fod yn naïf," meddai Llywydd y Comisiwn Jean-Claude Juncker.

Mae'r undeb yn cydnabod bod angen troedio'n ofalus rhag i wledydd eraill gael eu temtio i ddilyn Prydain ond diwedd y gân yw'r geiniog yn ôl Dafydd ab Iago.

"Ni'n masnachu gymaint â Phrydain, byddai'n dwp i gael Brexit caled," meddai.

 27 o wledydd yn gorfod cytuno ar delerau gadael, bydd rhaid bod yn bragmataidd er mae'n ymddangos bod yna ffiniau na ellir eu croesi.

Ffiniau

Mae rhyddid dinasyddion i fynd a dod yn eithriadol o bwysig i'r undeb ac wrth siarad â phobl fel Chris Jones mae'n hawdd deall pam.

Yn wreiddiol o Lanrwst mae e wedi byw ym Mrwsel ers 20 mlynedd ac wedi magu teulu yma.

Disgrifiad,

Mae Chris Jones yn dweud bod ansicrwydd am os fydd yn gallu aros ym Mrwsel ar ôl i Brydain adael yr UE

Mae e 'di gwneud cais am ddinasyddiaeth rhag ofn iddo orfod gadael ei gartre'.

"Y pryder mwya' ydy faswn i'n cael aros yng Ngwlad Belg 'efo'n nheulu yn gweithio lle rydw i rŵan. Ar hyn o bryd does gan neb syniad beth fydd yn digwydd."

Diwedd y daith?

Dros y penwythnos roedd yr undeb yn dathlu 60 mlynedd ers cytundeb Rhufain a dechrau'r undeb.

Ydy Brexit nawr yn peryglu dyfodol y prosiect?

Disgrifiad,

Mae pobl eisiau i'r Undeb Ewropeaidd fod yn agosach atyn nhw fel sefydliad medd yr ASE Jill Evans

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans, fe allai'r Ewrop ry' ni'n gyfarwydd (neu'n anghyfarwydd) â hi, fod yn greadur gwahanol o ganlyniad i Brexit.

"Dwi ddim yn credu bod yna berygl i Ewrop ei hun," meddai.

"Ond mae 'na bobl mewn gwledydd eraill sydd eisiau mwy o ddemocratiaeth yn Ewrop ac am weld Ewrop sy'n gweithio'n well."

Wastad ar y tu fas?

Wedi tanio Erthygl 50 mae'r ras wedi dechrau ond araf deg mae mynd ymhell.

Os bydd yna gytuno ar delerau gadael ymhen dwy flynedd, bydd angen mwy na hynny i gytuno ar delerau masnachu.

Doedd Prydain ddim yno ar y dechrau'n deg 60 mlynedd yn ôl ac mae modd dadlau mai llugoer fu ei hymrwymiad i'r prosiect Ewropeaidd erioed.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Theresa May yn ystod un o gynadleddau'r Undeb Ewropeaidd

Os oedd Prydain wastad ar y tu fas, fe fydd hynny'n swyddogol cyn bo hir.

Mae Prydain wedi cymryd y cam.

Cam ymlaen neu gam gwag, does dim troi 'nôl nawr.