Rhodri Morgan: 'Gallai trafod Brexit gymryd pum mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Gallai trafodaethau Brexit gymryd pum mlynedd i'w cwblhau yn ôl cyn-brif weinidog Cymru, Rhodri Morgan.
Bydd y Prif Weinidog Theresa May yn dechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ddydd Mercher.
Dywedodd Mr Morgan y byddai'n ddiwrnod nad oedd cefnogwyr yr UE fyth wedi disgwyl ei weld, ond i eraill "mae'n ddiwrnod o ryddid".
Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies, bod trigolion tlotaf Cymru yn dibynnu ar y meddyliau mwyaf craff ym Mhrydain i sicrhau bargen dda.
'Cameron yn cicio'i hun'
Pleidleisiodd Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm llynedd o 52.5% i 47.5%.
Dywedodd Mr Morgan, oedd o blaid Aros ac sydd yn gyn-bennaeth ar Swyddfa Comisiwn Ewrop yng Nghymru: "Mae pobl yn dweud y bydd hyn yn broses dwy flynedd, ond fe allai gymryd hyd at bum mlynedd."
Ychwanegodd nad oedd hi'n glir i ba gyfeiriad roedd y wlad am fynd, ac y gallai pethau fynd i drafferthion "os ydyn nhw am drafod y termau ysgaru cyn trafod termau bargen ar gyfer y dyfodol".
"Mae'n ddiwrnod anhygoel ac un roedd y rheiny ohonom oedd eisiau aros erioed wedi dychmygu y bydden ni'n ei weld, ond i'r rheiny oedd eisiau gadael dyma yw'r diwrnod o ryddid," meddai.
"Bydd David Cameron yn cicio'i hun ac yn dweud: 'Beth oedd yn mynd drwy fy mhen?'."
Dywedodd Andrew RT Davies, a ymgyrchodd o blaid Gadael yn y refferendwm llynedd, fod ei blaid eisiau "partneriaeth newydd a chyfartal" gyda'n "ffrindiau a'n cynghreiriaid yn yr UE".
"Er bod y canlyniad wedi bod yn anodd i'r rheiny a gollodd, mae cymunedau tlotaf Cymru yn dibynnu ar y meddyliau mwyaf craff ym Mhrydain i sicrhau bargen dda," meddai'r AC Ceidwadol.
Cadw llygad
Mynnodd Prif Weinidog presennol Cymru, Carwyn Jones, oedd o blaid Aros, y byddai'n "barod i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bargen fydd yn amddiffyn busnesau Cymru, ein heconomi a dyfodol llewyrchus i Gymru".
"Os nad ydyn ni'n credu bod ein blaenoriaethau ni'n cael eu cynrychioli a bod ein cynrychiolaeth ni'n disgyn o dan lefel 'dyn ni'n teimlo sy'n dderbyniol yn ystod y trafodaethau, wnawn ni ddim aros yn ddistaw," meddai Mr Jones.
"Fel arweinydd gwlad bleidleisiodd i adael yr UE, rydyn ni'n canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau dyfodol Cymru."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood y byddai tanio Erthygl 50 yn brawf o ymroddiad Theresa May i'r "bartneriaeth gyfartal honedig".
"Mae'n hanfodol fod yr amodau sy'n cael eu ffafrio gan Lywodraeth y DU wrth drafod yn ceisio gwarchod diddordebau economaidd pob cenedl a rhanbarth - nid milltir sgwâr y ddinas yn unig," meddai.
Yn ôl llefarydd ar ran UKIP yng Nghymru, dylai aelodaeth y blaid "fod yn falch iawn".
"Byddwn ni yno bob cam o'r ffordd er mwyn sicrhau bod Theresa May yn gweithredu ar ddymuniadau'r mwyafrif o bobl Prydain," meddai.
Dywedodd Mark Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: "Mae Theresa May ar fin cychwyn proses Brexit fydd yn eithafol a rhanedig.
"Os yw'r Torïaid eisiau dangos eu bod nhw'n gwrando ar bryderon Cymru, fe fyddan nhw'n cadw Cymru a'r DU yn y farchnad sengl. Fel arall, sioe yn unig oedd ymweliadau May â Chymru."