Hanner cant a dwl

  • Cyhoeddwyd

Coeliwch neu beidio mae 'na ambell i barti'n cael ei gynnal heddiw i ddathlu tanio erthygl hanner cant. Dyw i ddim wedi derbyn gwahoddiad i'r un ohonyn nhw a dydw i ddim yn siŵr y byddwn yn mwynhau'r gloddesta. Mae gen i ryw ddarlun yn fy mhen o ddynion canol oed yn morio canu'r "White Cliffs of Dover" ar ôl cael llond bola o gwrw cartref.

Fel mae'n digwydd roedd y parti i ddathlu fy mhen-blwydd yn ddeunaw ar noson refferendwm 1975 ac o ganlyniad i'r cyd-ddigwyddiad roedd 'na thema Ewropeaidd i'r achlysur - llond ford o bitsas a bwced o Blue Nun. Coeliwch neu beidio roedd hynny'n cael ei gyfri'n egsotig ar y pryd!

Beth sydd i ddweud felly ar ddiwedd ein hantur Ewropeaidd, antur sydd wedi para gydol fy oes fel oedolyn?

Rwyf wedi bod yn meddwl llawer ynghylch refferendwm y llynedd yn enwedig y mapiau yna sy'n dangos bod y rhannau hynny o Gymru a Lloegr a ddylasai fod wedi elwa fwyaf o wariant Ewropeaidd ymhlith y mwyaf brwd dros adael yr Undeb.

Prawf yw hynny, mae'n debyg, o'r teimlad yn yr ardaloedd hynny nad yw aelodaeth o'r Undeb wedi gweithio o'u plaid a dyw'r canfyddiad yna ddim yn ddi-sail pan ddaw hi at anghyfartaledd rhanbarthol o fewn Prydain.

Mae'r anghyfartaledd rhwng gwahanol ranbarthau economaidd y Deyrnas Unedig yn drawiadol iawn o gymharu â gwelydd eraill yr Undeb. Yn ôl Eurostat mae trigolion rhanbarth fwyaf goludog Prydain sef Gorllewin Canol Llundain wyth gwaith yn fwy cyfoethog na thrigolion y rhanbarth tlotaf. Oes angen dweud mai Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yw'r rhanbarth honno?

Y cwestiwn i ofyn, wrth gwrs, yw ai'r Undeb oedd ar fai am hynny neu'r llywodraethau oedd fod i wario'r arian er mwyn dyrchafu eu cymunedau tlotaf. Wedi'r cyfan mae anghyfartaledd rhanbarthol mwy neu lai wedi diflannu yng ngwledydd Llychlyn ac amryw o gyn-wledydd Comiwnyddol y dwyrain.

Efallai'n wir nad protest yn erbyn Ewrop oedd y bleidlais i adael yng nghymoedd y de ond protest yn erbyn cyfundrefn gyfan gan gynnwys llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd.

Er tegwch, mae Theresa May wedi gwneud yr union bwynt hynny ar sawl achlysur. Dyna sydd wrth wraidd y mantra "a Britain that works for everyone" ond mae angen mwy na slogan i fynd i'r afael a'r broblem.

Go brin y byddai lleihau'r buddsoddiant yn yr ardaloedd tlotaf yn lleddfu'r dicter at y drefn yn yr ardaloedd hynny a, heb Ewrop i'w chicio, gwleidyddion Llundain a Chaerdydd allasai fod y nesaf i deimlo'r boen.