Swllt i wella fy mhen
- Cyhoeddwyd
Mae'n un agwedd ryfedd o'n gwleidyddiaeth ni y gall Ukip hawlio mai hi yw'r blaid fwyaf llwyddiannus erioed gan ei bod hi wedi cyflawni ei phrif amcan wrth iddi straffaglu o un llanast trefniadol i'r nesa.
Ar hyn o bryd mae grŵp y Cynulliad fel pe bai hi'n perfformio rhyw fersiwn wleidyddol o 'Da yw Swllt', 'aelod i wario ac aelod i sgwario' yw hi a phump sydd i fynd adref at Gwen erbyn hyn!
Hawdd yw gwatwar ond mae'r ffaith bod dau o'r saith aelod a etholwyd dan y faner borffor y llynedd eisoes wedi gadael y grŵp yn codi cwestiynau dwys ynghylch cyfundrefn etholiadol y Cynulliad.
Wedi'r cyfan, dros bleidiau nid unigolion y mae etholwyr yn bwrw pleidlais pan ddaw hi at y rhestri rhanbarthol. Yn wahanol i Dafydd Elis Thomas neu Peter Law, dyweder, nid oes modd i Nathan Gills a Mohammad Asghars y byd yma ddadlau bod ganddynt riw fandad personol sy'n cyfiawnhau croesi'r llawr.
Yn achos Mark Reckless mae 'na eironi ychwanegol sef ei fod fe'i hun wedi ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ar ôl gadael y Ceidwadwyr i ymuno ac Ukip. Dyna oedd y peth anrhydeddus i wneud meddai fe ar y pryd.
I fod yn deg i Mark dyw'r llwybr hwnnw ddim yn agored iddo yn y Cynulliad. Pe bai'n dewis ymddiswyddo byddai 'na ddim isetholiad, fe fyddai Cipar arall yn cymryd ei le. Y tebygrwydd yw felly bydd Mark yn para'n Aelod Cynulliad tan 2021 er bod ei fandad yn amheus a dweud y lleiaf.
Ar hyn o bryd mae'r Cynulliad yn cychwyn ar y broses o adolygu'r gyfundrefn etholiadol. Rwy'n synhwyro y gallai hawl aelod rhestr i newid ei liw fod yn un o'r pynciau dan sylw.
Yn y cyfamser mae'n ymddangos bod Ukip wedi methu bwrw gwreiddiau ar lawr gwlad. Mae'r ffaith mai dim ond wythdeg o ymgeiswyr sydd ganddi yn yr etholiadau lleol yn awgrymu nad yw'r blaid wedi achub ar y cyfle i ddatblygu unrhyw fath o strwythur gwleidyddol yn sgil ei llwyddiant y llynedd.
Dyw'r Ukip ddim yn gelain eto ond mae pethau'n edrych yn dywyll iawn iddi. Os am brawf o hynny, ystyriwch hyn. O drafod hynt a helynt y blaid y dyddiau yma y cwestiwn a gofynnir amlaf yw "pwy nesaf?"
Yr ateb i'r cwestiwn, gyda llaw, yw 'dwn i ddim' - ond rwy'n fodlon mentro mai David Rowlands fydd y Cipar olaf!