Co ni off te

  • Cyhoeddwyd

Wel, doeddwn i ddim yn disgwyl hwnna! Gwae fi am gredu gair y Prif Weinidog wrth iddi fynnu droeon na fyddai 'na etholiad cyffredinol cyn 2020.

Bant a ni eto felly ac yn y cyfnod cythryblus hwn pwy sydd i ddweud na fydd 'na sawl tro trwstan rhwng nawr a dydd y farn fawr ym mis Mehefin.

Gadewch i fi fod yn glir mae galw etholiad bob tro yn gambl beth bynnag mae'r polau piniwn yn eu dweud ac er bod yr ods yn ffafrio'r Ceidwadwyr ar hyn o bryd yn yr hinsawdd bresennol gallasai pethau newid.

Cyn i chi chwerthin ar fy mhen, dydw i ddim yn proffwydo rhyw atgyfodiad gwyrthiol i'r blaid Lafur o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn ond fe fyddai dyn yn disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol ennill tir wrth i bleidleiswyr tactegol faddau eu rhan yng Nghlymblaid David Cameron.

Gambl Mrs May felly yw y bydd y Ceidwadwyr yn cipio mwy o seddi Llafur nac maen nhw'n eu colli i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Dyna ddylai ddigwydd hefyd - ond yn sgil pleidlais Brexit ac ethol Donald Trump dyw'r gair 'dylai' ddim yn golygu cweit cymaint y dyddiau hyn.

Yn ôl i Gymru fach felly. Dyma'r seddi amlwg i gadw llygad arnyn nhw; Canol Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam ac Ynys Môn. Fe fydd 'na fwy. Cawn gyfle i drafod y rheiny yn y man.