Pwy a saif gyda ni?
- Cyhoeddwyd
Etholiad Ready Steady Cook neu Scrapyard Challenge yw'r un sydd o'n blaenau ar Fehefin yr wythfed. Yr her yw gwneud y gorau o'r cynhwysion sydd ar gael yn hytrach na threulio blynyddoedd i geisio creu Rolls Royce etholiadol.
Yr her gyntaf yw sicrhau bod 'na ymgeiswyr cymwys yn cael eu dewis ym mhob etholaeth. Mwy na thebyg bydd yn rhaid gwneud hynny cyn Mai'r 11eg pan ddisgwylir i'r enwebiadau gau.
O fewn cwta dair wythnos felly rhaid llunio rhestrau byrion a chynnal cynadleddau dewis a gwneud hynny tra bod y trŵps yn prysur ymgyrchu yn yr etholiadau lleol.
Yr ateb hawsaf i'r pleidiau yw gofyn i ymgeiswyr 2015 sefyll eto ond nid pawb fydd yn fodlon gwneud hynny a lle mae ymgeisydd wedi tanberfformio a ddylai fe neu hi haeddu ail gyfle?
Ai Jenny Willott, er enghraifft, yw'r person gorau i geisio adennill ei hen sedd yng Nghanol Caerdydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol neu a fyddai'r blaid yn gallach i enwebu'r ymgeisydd cynulliad Eluned Parrot? Fe ddaeth John Rowlands yn agos iawn at ddiorseddi Albert Owen ar Ynys Môn ond ai fe yw'r dyn i fynd a'r maen i'r mur?
Mae cwestiynau felly yn wynebu pob un o'r pleidiau ond efallai mai'r person sy'n wynebu'r penderfyniad anoddaf yw Leanne Wood.
Pan ddaw hi at y Rhondda mae gan Blaid Cymru fainc gref o ymgeiswyr posib. Fe fyddai Shelley Rees Owen neu Jill Evans yn gallu cynnig her go iawn i Lafur ond does dim dwywaith taw'r person gyda'r gobaith gorau o guro Chris Bryant yw arweinydd y blaid ac aelod cynulliad y ddau gwm.
Ond ydy Leanne mewn gwirionedd eisiau symud o Fae Caerdydd i San Steffan gan ildio arweinyddiaeth y blaid trwy wneud hynny? Beth fyddai effaith methu cipio'r sedd ar forâl yr aelodau ar lawr gwlad a pha mor hyderus yw'r blaid y gallasai hi ennill isetholiad Cynulliad?
Mae'r rheiny i gyd yn gwestiynau anodd ac, yn reddfol, rwy'n amau na fydd Leanne yn mentro i'r ras. Ond rwy'n tueddu i fod yn berson pwyllog tra bod arweinydd Plaid Cymru wedi profi droeon bod hi'n wleidydd sy'n fodlon mentro llawer er mwyn cipio'r wobr.