Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?

  • Cyhoeddwyd

Diawch, pe bai Gruffudd ab Yr Ynad Coch yn trydar go brin y byddai fe wedi gallu trechu ambell i genedlaetholwr a Llafurwr o safbwynt eu pesimistiaeth yn sgil cyhoeddi arolwg YouGov/ITV.

Pwy laddodd Cymru? Nid Edward I, mae'n ymddangos, ond Roger Scully, mewn stiwdio deledu gyda phôl piniwn!

Nawr, nid fy lle i yw racso'r arolwg. Mae gan YouGov record o fod yn weddol o agos ati ynghylch gwleidyddiaeth Cymru ac mae'r ffigyrau o fewn yr ystod o ganlyniadau credadwy.

Serch hynny mae pob arolwg yn codi cwestiynau yn ogystal â chynnig atebion a dyw hwn yn ddim gwahanol.

Y cwestiwn cyntaf i ofyn yw yn lle yn ddaearyddol mae'r holl bleidleiswyr Ceidwadol newydd yna?

Mewn etholiadau diweddar mae Llafur wedi tueddu tanberfformio yn ei chadarnleoedd ôl-ddiwydiannol a gorberfformio yn yr etholaethau ymylol traddodiadol. Ydy'r un peth yn debyg o fod yn wir y tro hwn? I grisialu'r peth, dyma enghraifft o'r cwestiynau sydd angen eu hystyried. Ai yn etholaeth Pen-y-bont y mae'r gogwydd yntau drws nesaf yn etholaeth Ogwr? Ar yr atebion i gwestiynau felly y bydd dosraniad y seddi yn dibynnu.

Mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod y cwymp mwyaf yn y gefnogaeth i Lafur yn debyg o fod yn yr ardaloedd hynny le'r oedd y maswyr yn bell ar y brig yn refferendwm y llynedd. Os ydy hynny'n wir fe allai hynny gyfyngu rhywfaint ar y nifer o seddi y gallasai Llafur eu colli. Fe fyddai seddi'r gogledd ddwyrain mewn peryg dybryd ond y rhai ar hyd coridor M4 llai felly.

Yr ail gwestiwn sy'n fy nharo i yw sut mae esbonio'r gagendor rhwng bwriadau pleidleisio'r etholiad cyffredinol a'r rheiny ar gyfer y Cynulliad a'r cynghorau?

Dyw Brexit ddim yn esbonio'r cyfan. Pe bai'n gwleidyddiaeth yn dechrau troi o gwmpas cwestiynau cyfansoddiadol fel sy'n digwydd yn yr Alban fe fyddai'r rhaniad rhwng y mewnwyr a'r maswyr i'w weld ym mhob gornest.

Mae'n ymddangos i mi fod cyfran pur sylweddol o bleidleiswyr wedi dod i'r casgliad nad yw Llafur yn ffit i lywodraethu ar lefel Brydeinig - taw Jeremy Corbyn nid Brexit yw gwraidd y drwg.

Os ydy hynny'n wir fe fydd yn rhyfeddol o anodd i Lafur newid meddyliau ac ennill calonnau rhwng nawr a 8 Mehefin.