Trwy Ofer Esgeulustod

  • Cyhoeddwyd

Mae'n debyg eich bod yn gyfarwydd erbyn hyn â'r darogan y gallai'r Ceidwadwyr ennill y mwyafrif o seddi Cymru am y tro cyntaf ers 1859 pan ddaw diwrnod mawr y cyfri ar Fehefin 9fed.

Ond pa mor bell allai'r don las yna fynd? Ydy hi'n bosib i'r blaid gipio sedd sydd wedi bod allan o'i gafael ers 1880 neu o fod yn farddonol braidd a fydd Ceredigion, fel Cantre'r Gwaelod gynt, yn diflannu dan y dŵr?

Na, dydw i ddim wedi colli'n marblys. Gadewch i mi ddadlau'r achos a chewch chi farnu wedyn.

Y darn bach cyntaf o dystiolaeth sy gen i yw canlyniad Ceredigion yn etholiad 1979, yr etholiad pan etholwyd Margaret Thatcher yn Brif Weinidog. Do, fe wnaeth Geraint Howells ddal y sedd i'r Rhyddfrydwyr ond doedd y fuddugoliaeth ddim yn un gysurus. 2,194 oedd mwyafrif Geraint dros yr ymgeisydd Ceidwadol Emlyn Thomas, Glanfano, oedd yn ddyn mawr gyda'r FUW.

Dyna'r agosaf y mae'r Ceidwadwyr wedi diod at gipio'r sedd yn y cyfnod modern. Pedair blynedd yn ddiweddarach yn 1983, annus mirabilis y Ceidwadwyr ym mhob man arall, llwyddodd Geraint i gynyddu ei fwyafrif i 5,639.

Beth ddigwyddodd yn 1979, felly? Wel fe gynhaliwyd yr etholiad hwnnw o dan gysgod y refferendwm datganoli cyntaf, pleidlais lle'r oedd Dyfed, fel pob sir arall, wedi pleidleisio'n drwm yn erbyn sefydlu Cynulliad yng Nghaerdydd. Ar y don honno y llwyddodd Emlyn i syrffio gan foddi wrth ymyl y lan.

Nawr dyma ni eto, mewn etholiad sy'n cael ei gynnal yn sgil refferendwm arall, un lle wnaeth 46.4% o etholwyr Ceredigion bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. I bwy fydd y bobol hynny yn pleidleisio'r tro hwn, tybed?

Gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn cystadlu a'i gilydd o safbwynt brwdfrydedd dros Ewrop, a fydd Mark Williams yn gallu dibynnu ar y bleidlais dactegol y mae wedi manteisio arni yn y gorffennol y tro hwn?

A fydd yr holl siartiau bar yna a'r honiadau bod yr ornest yn 'ras dau geffyl' yn gweithio yng nghysgod Brexit? Efallai, ond efallai ddim.

Wrth gwrs, mae'n bosib y byddai gogwydd o'r Democratiaid Rhyddfrydol at y Ceidwadwyr yng Ngheredigion yn gwobrwyo Plaid Cymru sydd â phleidlais lawer mwy cadarn nac un Mark ond peidiwch ddiystyru'r posibilrwydd y gallai'r ceffyl glas fod yn geffyl tywyll.

Amser a ddengys, ond mae Ceredigion yn un i wylio!