Cyfnod prawf o dair blynedd i gyffur HIV

  • Cyhoeddwyd
The pillFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi astudiaeth i ddarparu cyffur trin HIV, Truvada i bobl fyddai'n cael budd o'r driniaeth.

Daeth y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn dilyn penderfyniad Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (GSFCG) am Truvada, er iddyn nhw gynghori'r llywodraeth i beidio ariannu PrEP (enw arall am Truvada) ar y sail nad oedd yn cynnig gwerth am arian.

Ond dywedodd Mr Gething y byddai'r cyffur yn glinigol briodol i rai pobl, ac y bydden nhw'n medru cael y cyffur yn ystod cyfnod prawf.

Mae PrEP yn gyffur sy'n gallu lleihau'r achosion o heintiadau HIV. Yn ôl un grŵp o arbenigwyr annibynnol mae'n gallu bod yn effeithiol iawn o'i roi i bobl gywir gyda'r dos cywir.

Pan ddaeth penderfyniad GSFCG yn gynharach yr wythnos hon fe gafodd ei ddisgrifio fel un "byr weledol" gan ddweud y gallai PrEP arbed arian i'r GIG yn y tymor hir.

Dywedodd Mr Gething: "Nid oes unrhyw amheuaeth, pan fydd yn cael ei gymryd yn gywir, fod Truvada yn lleihau nifer yr achosion o heintiadau HIV.

"Ochr yn ochr â gwasanaethau ataliol iechyd rhywiol, gall y cyffur helpu i leihau nifer yr achosion cyffredinol o heintio â HIV a'r achosion o drosglwyddo'r haint. Dyna yw cyngor Sefydliad Iechyd y Byd.

"Bydd yr astudiaeth yr wyf yn ei chyhoeddi yn golygu bod y cyffur ar gael i bawb y mae'n briodol yn glinigol iddynt ei gael.

"Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i ddysgu sut fydd orau i roi'r driniaeth ataliol angenrheidiol i leihau'r perygl o drosglwyddiadau HIV yng Nghymru, ac ateb rhai o'r cwestiynau sy'n cael eu codi gan GSFCG ynghylch cyfraddau achosion.

"Mae GSFCG yn grŵp arbenigol annibynnol, uchel ei barch. Dwi'n derbyn ei gyngor bod gormod o ansicrwydd ynghylch pa mor gost-effeithiol yw'r cyffur i'w argymell fel un i'w ddefnyddio'n rheolaidd yn GIG Cymru ar hyn o bryd."

'Nid yr unig ateb'

Mae Stonewall Cymru, yr elusen cydraddoldeb i bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT), wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru hefyd.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: "Mae wedi ei brofi bod PrEP yn hynod effeithiol wrth leihau achosion newydd o HIV.

"Bydd y treial hwn yn galluogi Cymru i amddiffyn y rheiny sydd â'r risg uchaf, a gan ei fod yn ddrytach i drin HIV na'i atal, yn y tymor hir bydd hyn hefyd yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd.

"Er mai mesur dros dro yw hwn, byddwn yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod PrEP ar gael yn y tymor hir i'r rheiny sydd ei angen yn dilyn y treial tair blynedd.

"Wrth gwrs, nid PrEP yw'r unig ateb wrth daclo trosglwyddiad HIV. Dylai'r mesur ataliol hwn ddigwydd ar y cyd gydag addysg rhyw a chydberthynas o safon - mae'r mwyafrif o bobl ifanc lesbiaid, hoyw, deurywiol a thraws yn dal i ddweud nad ydynt yn cael y wybodaeth neu'r cyngor sydd eu hangen arnynt i aros yn ddiogel.

"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i ddiweddaru canllawiau presennol ar addysg rhyw a chydberthynas er mwyn sicrhau bod pobl ifanc lesbiaid, hoyw, deurywiol a thraws yn gallu gwneud penderfyniadau iach, diogel dros eu lles eu hunain."