Y Gyfnewidfa Lo yn ailagor ar ôl ailwampiad gwerth £40m
- Cyhoeddwyd

Mae'r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi ailagor yn dilyn cynllun gwerth £40m i'w achub.
Roedd yr adeilad rhestredig Gradd II wedi bod ynghau ers 2013 cyn iddo ailagor fel gwesty ddydd Sadwrn.
Yr adeilad, gafodd ei godi yn 1883, oedd y man ble roedd pris glo ar draws y byd yn cael ei osod, ac yma hefyd y cafodd y siec gyntaf gwerth £1m ei arwyddo.
Roedd dyfodol yr adeilad wedi bod mewn perygl, ond fe wnaeth y Neuadd Fawr a 40 o ystafelloedd y gwesty agor ddydd Sadwrn.

Darlun arlunydd o'r gwaith wedi ei gwblhau
Dyma yw cam cyntaf yr ail agoriad, a bydd 200 o ystafelloedd a bwyty yno erbyn i'r gwaith adeiladu orffen ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd y datblygwr, Signature Living, ei fod wedi gorfod trwsio nifer o loriau oedd wedi dymchwel yn ystod yr ailwampiad, sydd wedi cymryd wyth mis hyd yn hyn.