Crwsâd y Plant

  • Cyhoeddwyd

P'un sy'n denu'ch sylw chi, dywedwch. Y Champions League, Eisteddfod yr Urdd neu'r hen etholiad yma?

Does dim gwobrau am ddyfalu taw Mehefin yr 8fed yw dydd y farn fawr o'm safbwynt i, ond gadewch i mi fod yn onest am un peth. Fe fyddai'n well gen i geisio dyfalu p'un ai Real yntau Juventus fydd yn fuddugol neu pwy fydd ar y brig yn y parti deulais na phroffwydo canlyniad yr etholiad rhyfedd yma.

Gydag wythnos i fynd, gan amlaf, mae'r ystod o ganlyniadau etholiad posib yn dechrau culhau ond nid y tro hwn.

Mae'n bosib o hyd i ddychmygu sefyllfa lle fydd Dewi, Dicw a minnau'n trafod mwyafrif anferthol y Ceidwadwyr nos Iau nesaf ond gallaf hefyd ddychmygu trafodaeth ynghylch y wyrth Gorbynaidd a chlymbleidiau posib mewn senedd grog. Go brin fod yr ail bosibilrwydd yna ar y ford gwta fis yn ôl!

Beth sydd wedi digwydd felly? Wel mae'n amlwg bod y ras wedi tynhau a bod hynny wedi digwydd yn bennaf oherwydd cynnydd yn y gefnogaeth i Lafur yn hytrach na chwymp yn y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr. Mae'r cwmnïau polio yn gallu cytuno ar hynny o leiaf.

Ar gyfartaledd yn y deg arolwg barn a gynhaliwyd rhwng y 18fed a'r 24ain o Fai roedd y Ceidwadwyr ugain pwynt ar y blaen i Lafur o 44% i 24%. Yn y deg arolwg mwyaf diweddar mae'r adwy wedi ei haneru gyda'r Torïaid yn denu cefnogaeth 42% o'r rheiny a holwyd a 35% yn cefnogi Llafur.

Mae'r polau hefyd yn gytûn mai ymhlith yr ifanc y mae'r gogwydd i Lafur wedi amlygu ei hun. Mae'r union ganrannau'n amrywio ond ymddengys na fu fawr o newid ym mwriadau pleidleisio'r rheiny sydd dros eu trigain oed yn ystod y mis diwethaf. Ymhlith y rheiny rhwng 18 a 24 ar y llaw arall mae'r gefnogaeth i Lafur wedi cynyddu o 31% i 72% yn ôl ICM ac o 44% i 69% yn ôl YouGov. Mae canfyddiadau ComRes, Opininium a'r gweddill yn ddigon tebyg.

Sut felly mae esbonio'r ffaith bod rhai o'r cwmnïau yn darogan y bydd y ras yn un hynod agos ac eraill yn rhagweld mwyafrif cymharol gysurus i Mrs May?

Mae'r ateb yn ddigon syml. Mae rhai o'r cwmnïau o'r farn y bydd canran anarferol o uchel o bobol ifanc yn bwrw eu pleidleisiau'r tro hwn. Os felly, gallasai pethau fod yn agos. Mae cwmnïau eraill yn credu mai'r ifanc a dybia a'r hen a bleidleisia! Os taw'r rheiny sy'n gywir, wel Mrs May amdani.

Yn bersonol, yn fan hyn rwy'n tueddu bod ar yr ochr geidwadol - gyda G fawr ac G fach!

Rwy'n ddiolchgar i fy nghyfaill David Cowling, pen bandit ystadegol y BBC, am dynnu fy sylw at un arolwg a gynhaliwyd gan gwmni BMG yn ôl ym mis Ebrill. Bryd hynny, roedd oddeutu hanner y bobl ifanc a holwyd ddim yn sicr p'un ai oedden nhw ar y gofrestr bleidleisio ai peidio. Dyw hynny ddim yn awgrymu i mi fod crwsâd y plant ar fin sgubo Llafur hyd at furiau Caersalem!