Mae'r amser wedi dod

  • Cyhoeddwyd

Nawr lanciau rhoddwn glod - mae dydd y darogan wedi dod! Beth allwn ni ddisgwyl nos yfory? Wel dyma i chi ambell i syniad a sylw ond cofiwch, prentis o ddyn hysbys ydw i, gallasai pethau fod yn wahanol iawn.

Y peth cyntaf i ddweud fi'n meddwl yw bod yr ystod o ganlyniadau posib ar lefel Prydain gyfan llawer yn fwy nac arfer. Byswn i ddim yn cwympo oddi ar fy set nos fory pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill â mwyafrif o gant neu'n fwy ond byswn i ddim chwaith yn moelyd fy nghoffi o weld senedd grog.

Pam felly? Wel, rwy'n ddiolchgar i fy nghyfaill a chydweithiwr Dan Davies am grisialau'r peth yn fy meddwl. Dadl Dan yw bod y wleidyddiaeth amlbleidiol a ddatblygodd dros y chwarter canrif ddiwethaf yn cael ei chywasgi yn ôl i mewn i fatrics yr hen system ddwy blaid. Does neb yn rhyw sicr iawn beth fydd canlyniad hynny.

Hynny yw, o ble y mae pleidleiswyr newydd y Ceidwadwyr a Llafur yn dod ac ym mhle maen nhw?

Mae'n gwestiwn da a'r cwestiwn hwnnw fydd yn pennu ffawd y ddwy blaid. Fe fydd ton Corbynaidd yn Llundain, er enghraifft, yn gwneud fawr o les i Lafur ac o safbwynt y Ceidwadwyr, fe fyddai pentyrru pleidleisiau yn ne Lloegr yn etholiadol wastraffus. Etholaethau canolbarth a gogledd Lloegr yw'r rhai i wylio, dybiwn i, o safbwynt y canlyniad Prydeinig.

Yn ôl a ni at Gymru fach lle ddechreuodd yr ymgyrch gydag ymateb hysterig braidd i arolwg barn oedd yn awgrymu bod 'na don las yn sgubo trwy'n gwlad. Roeddwn i o'r farn ar y pryd mae 'outlier' oedd y pôl hwnnw.

Doedd dim modd profi hynny ond roedd y diffyg ymgyrchu gan y Ceidwadwyr mewn sawl 'sedd ymylol' yn siarad cyfrolau. Pen-y-bont, Gorllewin Casnewydd a seddi Clwyd yw maes y gad. Anghofiwch y gweddill ond os ydy hi'n noson dda i lafur wpwch Gŵyr a Dyffryn Clwyd ar y rhestr.

I'r Gymru wledig yn olaf. Fe ddywedais yn ôl ar ddechrau'r ymgyrch fy mod o'r farn y gallasai Mark Williams fod mewn trafferth yng Ngheredigion. Dydw i ddim wedi newid fy meddwl. A beth am Ynys Môn, yr etholaeth sy'n enwog am beidio diorseddi deiliad ers i Cledwyn Hughes wneud hynny i Ledi Megan yn ôl ar ddechrau'r 1950au? Rwy'n amheus iawn a fydd y record honno'n sefyll fore Gwener - ond fe gawn weld.