Cymdeithas yn galw am ragor o arian ar gyfer Y Cymro

  • Cyhoeddwyd
Y Cymro
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Tindle yn gobeithio gwerthu Y Cymro erbyn diwedd y mis

Fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau dyfodol papur newydd Y Cymro, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Mae dyfodol y cyhoeddiad yn ansicr gan fod Tindle, y perchnogion presennol, yn trafod trosglwyddo'r papur i berchnogion newydd erbyn diwedd Mehefin.

Mae disgwyl i Tindle wneud datganiad yn fuan ynglŷn â dyfodol y papur.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod "achos cryf" dros roi mwy o arian i'r Cymro.

Angen 'sawl ffynhonnell newyddion'

Cafodd Y Cymro ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 1932, ac mae ei swyddfeydd presennol ym Mhorthmadog.

Dywedodd Carl Morris, llefarydd cyfryngau Cymdeithas yr Iaith: "Credwn fod achos cryf dros gynyddu'n sylweddol y gefnogaeth ariannol i'r Cymro fel bod modd diwygio a buddsoddi i ddatblygu'r papur a'i wefan ymhellach, gan gydweithio gydag eraill lle bo'n bosibl.

"Mae'n bwysig iawn i'r llywodraeth sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion Cymraeg, yn lle ein bod yn gorfod dibynnu ar un neu ddau ddarparwr.

llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Llyfrau sy'n gyfrifol am y gefnogaeth ariannol i gyhoeddiadau fel Y Cymro

"Yn nhermau darlledu cenedlaethol, y BBC yw'r unig ddarparydd newyddion Cymraeg ac mae hynny'n peryglu democratiaeth. Mae angen ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn sicrhau nad oes rhagor o ganoli yn digwydd."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant cyhoeddi yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a nhw sy'n penderfynu pa deitl sy'n cael faint o arian ac ar ba sail."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau: "Rydym yn croesawu'r ffaith bod grŵp newydd â diddordeb mewn cyhoeddi'r Cymro.

"Byddwn yn eu cyfarfod yn fuan a disgwylir cais ffurfiol ganddynt am gymhorthdal."