Ffwndro'n y Fflint
- Cyhoeddwyd
Dydw i ddim am hawlio'r clod na'r bai am y peth ond rhai oriau wedi i mi blogio ddoe ynghylch modrwy arfaethedig castell y Fflint fe gyhoeddodd y Llywodraeth ei bod wedi penderfynu oedi er mwyn ailedrych ar y cynllun.
Mae'n ymddangos i mi taw ffordd gwrtais o ddweud 'sgrapio' yw hynny. Mae'n ddigon posib y bydd rhyw fath o waith celf yn ymddangos ar forlan y Fflint rhyw ben ond nid y fodrwy fydd honno. Gallwch fentro hefyd y bydd 'blwyddyn y chwedlau' wedi hen ddarfod erbyn hynny. Mae'r ysgariad yn derfynol. Beth am i ni 'oedi ac ailedrych felly er mwyn ceisio canfod sut yn union y gwnaeth y Gweinidog Treftadaeth lanio'i hun yn y fath bicl.
Y peth cyntaf i nodi yw nad hwn yw'r tro cyntaf i'r cynlluniau am waith celf yng Nghastell Fflint fynd i'r gwellt.
Yn haf 2016, dolen allanol cyhoeddwyd bod Cadw ar ran y llywodraeth yn lansio cystadleuaeth gwerth miliwn o bunnau i gomisiynu dau waith celfyddydol i ddathlu 'blwyddyn y chwedlau' sef eleni. Fe fyddai un gwaith wedi ei leoli yn y Fflint a'r llall ar safle i'w ddewis gan yr artist buddugol. Roedd angen i artistiaid ddatgan eu diddordeb o fewn tri mis a bwriadwyd cyhoeddi enwau'r enillwyr yn Hydref 2016.
Dyma oedd gan Ken Skates, y Gweinidog Treftadaeth, i ddweud ar y pryd.
"Ar gyfer Blwyddyn Chwedlau 2017, byddwn yn canolbwyntio ar brosiectau sy'n chwyldroadol, yn fentrus, yn greadigol ac yn arloesol... Drwy ddadorchuddio darn o waith celf o safon fyd-eang yng Nghastell y Fflint, byddwn yn gallu helpu i hybu'r A55 fel Coridor Diwylliannol Ewrop, gan ddenu mwy o dwristiaid i Gymru a gwneud y ffordd yn un sy'n rhoi profiad unigryw iddyn nhw."
Wps.
Ymlaen a ni i'r Hydref felly a do, fe gafwyd cyhoeddiad. Cyhoeddiad bod y broses wedi ei hoedi am ychydig oedd hwnnw. Doedd dim esboniad gan y Llywodraeth ond roedd gan yr Architect's Journal, dolen allanol ddamcaniaeth.
"...it is understood the decision follows a shortage of applications to the landmark commission due to onerous restrictions for competing."
Na phoener. Roedd llefarydd y Llywodraeth wrth law i fynnu bod pob dim yn iawn.
'The contract will be re-advertised to widen awareness of this exciting commission. We aim to commence the new tender process by early December, with a view to announcing the successful bid by spring 2017.'
Fe flagurodd y lili wen fach a gwelwyd ambell i friallen fach ar lawr heb sôn am enillydd i'r naill gystadleuaeth na'r llall. Beth oedd y beirniaid , cynrychiolwyr Cadw, Croeso Cymru a'r Cyngor Celfyddydau, yn gwneud yn ystod y misoedd hir hynny? Pwy a ŵyr?
Gallwn fod yn sicr beth nad oedden nhw'n gwneud sef ymgynghori. Mae'n ymddangos na fu unrhyw ymdrech i siarad â thrigolion y Fflint na'r Cyngor Sir sydd, fel mae'n digwydd, yn gyngor Llafur. Dyma oedd gan ddirprwy arweinydd y cyngor, Bernie Attridge, i ddweud wrth drydar.
Let me be abundantly clear that @FlintshireCC are not paying for the ring in Flint and the leadership have had no discussion about it.
Go brin fod y panel wedi ymgynghori â haneswyr chwaith - fe fyddai un o'r rheiny wedi ei rhybuddio o symbolaeth anffodus y fodrwy o fewn byr o dro.
A dyma ni'n cyrraedd diwedd Gorffennaf gyda chyhoeddiad ynghylch cynllun y Fflint ond distawrwydd llethol ynghylch yr ail gystadleuaeth. Chwi wyddoch y gweddill. Llanast. Siambols. Cawlach.
Pwy sy'n gyfrifol am hyn oll?
Fe fyddai'n ddigon hawdd taflu'r bai ar weision sifil am broses oedd yn amlwg yn ffaeledig o'r cychwyn gyda'u cyfrinachedd a diffyg tryloywder cynhenid yn ychwanegu at y problemau. Ond ar ddiwedd y dydd mae Gweinidog yn gyfrifol am ei adran ac mae'n anodd osgoi'r casgliad bod Ken Skates wedi dangos diffyg crebwyll gwleidyddol rhyfeddol.
Hwn yw'r dyn, cofiwch, yr oedd rhai yn ei weld fel 'pâr saff o ddwylo' i olynu Carwyn Jones. "Mr Bean Llywodraeth Cymru" oedd disgrifiad un cyfaill ohono yn sgil digwyddiadau'r wythnos hon. Mae hynny'n annheg ond go brin fod ei gyd-aelodau Llafur o hyd yn ei ystyried yn lejand!