Mae'r Faner Goch yn fflam o dân

  • Cyhoeddwyd

Mae'n beth rhyfedd ar y naw fod plaid sydd newydd golli etholiad mewn hwyliau llawer gwell na'r un wnaeth bron ei hennill. Gêm o ddisgwyliadau yw gwleidyddiaeth wrth gwrs a chyda Theresa May wedi colli ei mwyafrif mewn etholiad yr oedd hi'n saff o ennill mae modd deall yr awyrgylch o ddathlu yn y gynhadledd Lafur yn Brighton.

Serch yr awyrgylch o undod yn Brighton mae'r rhaniadau o fewn y blaid o hyd yn bodoli o dan yr wyneb a'r frwydr am galon ac enaid y blaid yn parhau. Does dim dwywaith taw'r chwith sy'n ennill y frwydr honno ar hyn o bryd yn arbennig o safbwynt cipio'r awenau trefniadol. Dyna sy'n esbonio'r geiriau rhyfedd braidd gan Len McCluskey yn y gynhadledd.

"To those merchants of doom, the whingers and the whiners who said we should have done better, we didn't win, I say: we did win." oedd neges arweinydd Unite ond mae'n amlwg taw at y frwydr fewnol honno yr oedd e'n cyfeirio o'r hyn mae'n dweud ychydig frawddegau'n ddiweddarach. "We won back our dignity and pride, making Labour a noble cause to fight for again."

Yr hyn sydd ddim wedi newid wrth gwrs yw agwedd trwch yr Aelodau Seneddol. Mae'r rheiny, er yn brathu eu tafodau ar hyn o bryd, o hyd yn amheus iawn ynghylch cyfeiriad y blaid. Am y rheswm hynny mae'n debyg taw ymdrechion y chwith i newid y drefn o ddewis ymgeiswyr seneddol fydd y frwydr fawr nesaf.

O dan y faner o "ddemocrateiddio" fe fydd 'na ymdrech i gynyddu nerth braich y cannoedd o filoedd o aelodau newydd sydd wedi ymuno â'r blaid ers i Ed Miliband roi'r gorau i'w harwain. Fe fydd hi'n anodd rhwystro'r chwith rhag ennill y frwydr honno yn Lloegr ond mae'n bosib y bydd 'na fwy o ffeit yng Nghymru a'r Alban gan fod dewisiadau seneddol bellach wedi datganoli i'r pleidiau Cymreig ac Albanaidd.

Fe fydd y cwffio go iawn yn dechrau os ydy'r chwith, fel y gwnaethon nhw yn y 1980au, yn ceisio cyflwyno system o ail-ddewis gorfodol, lle fyddai'n rhaid i Aelodau Seneddol gystadlu i gael eu hail-enwebu rhwng etholiadau. Fe fyddai system o'r fath yn sicrhau goruchafiaeth y chwith yn y blaid seneddol o fewn byr o dro a gellir disgwyl i'r deiliaid presennol wneud popeth posib i rwystro'r peth rhag digwydd.

Mae hyn oll yn mudlosgi a'r hyn o bryd a hawdd yw anwybyddu problemau Llafur o'u cymharu â'r cwestiynau ingol sy'n hollti'r Ceidwadwyr. Y cyfan sy' gen i i ddweud yw hyn. Nid gwlad y llaeth a'r mêl yw Brighton. Mae 'na drwbl i ddod.