Dylan, Dahl a Pantycelyn - Eto!

  • Cyhoeddwyd

Bron i flwyddyn yn ôl nawr ysgrifennais bwt yn gresynu braidd nad oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu trefnu dathliad o drichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn fel y rhai a gynhaliwyd i goffáu Dylan Thomas a Roald Dahl. Gallwch ddarllen y cyfan o'r erthygl yn fan hyn ond dyma ran ohoni.

"Rwy'n deall yn iawn mai ymgyrchoedd i farchnata Cymru oedd digwyddiadau Dahl a Dylan mewn gwirionedd. Serch hynny, gwariwyd symiau sylweddol o arian cyhoeddus ar ddathlu bywydau dau lenor. Mae cynsail wedi ei osod ac onid yw Pantycelyn yn haeddu rhyw fath o goffâd?

Wedi'r cyfan mae modd dadlau bod ei ddylanwad ar ddiwylliant Cymru llawer yn fwy nac awduron y CMM a Dan y Wenallt ac mae ei eiriau o hyd yn cael eu canu o gwmpas y byd."

Nid fi oedd yr unig un i deimlo felly. Fe arwyddwyd deiseb, dolen allanol a gychwynnwyd gan Aled Job oedd yn gwneud yr un pwynt gan dros fil a chant o bobol. Fe fydd y ddeiseb honno'n cael ei hystyried gan y pwyllgor deisebau cyn bo hir er bod hi braidd yn hwyr yn y dydd i'r Llywodraeth weithredu.

Fel mae'n digwydd, trefnwyd nifer fawr o ddigwyddiadau lleol yn ystod y flwyddyn i ddathlu bywyd William Williams a diolch i Lywydd y Cynulliad a'r Llyfrgell Genedlaethol fe fydd dathliad cenedlaethol swyddogol yn cael ei gynnal ym mhresenoldeb y Prif Weinidog ar Hydref 18fed.

Diolch i'r rheiny sy'n gyfrifol am drefnu'r digwyddiad ond mae'n anodd peidio teimlo bod 'na elfen o hap a mympwy yn perthyn i'r ffordd y mae ein mawrion yn cael eu coffáu a'u dathlu. A fyddai'n syniad sefydlu panel o haneswyr a llenorion i roi cyngor rhag blaen i'r Llywodraeth a'r Llywydd ynghylch y cerrig milltir hyn?