Wishgit, wishgit i ffwrdd â ni
- Cyhoeddwyd
Mae pob un ohonom ni, rwy'n amau, yn teimlo'n rhwystredig yn ein gwaith weithiau. Efallai bod rhyw gydweithiwr yn mynd ar ein nerfau ni neu bod rhyw brosiect yn profi'n anoddach na'r disgwyl neu'n teimlo ychydig bach yn ddibwrpas.
Y tro nesaf y'ch chi'n teimlo felly, oedwch am eiliad a meddyliwch sut mae gweision bach y Comisiwn Ffiniau yn teimlo. Ar hyn o bryd mae pobl y Comisiwn yn gweithio'n ddyfal i baratoi argymhellion ad-drefnu ffiniau etholaethol yng Nghymru gan wybod yn iawn mae bychan iawn yw'r posibilrwydd y bydd eu hargymhellion yn cael eu gwireddu. Nid hwn yw'r tro cyntaf i'r Comisiwn orfod gwneud hynny chwaith.
Fe ddechreuodd y saga hon yn ôl yn 2010 gyda'r trafodaethau rhwng David Cameron a Nick Clegg i ffurfio clymblaid gyda newidiadau cyfansoddiadol ar frig yr agenda i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe ildiodd David Cameron ar y cwestiwn o'r refferendwm anghofiedig yna ynghylch y system bleidleisio a diwygio Tŷ'r Arglwyddi. O ganlyniad cytunodd Clegg i gefnogi deddfwriaeth i leihau'r nifer o aelodau seneddol i 600 a chysoni'r nifer o etholwyr ym mhob etholaeth.
Fe fyddai'r newid hwnnw wedi rhoi mantais o oddeutu 20 sedd ychwanegol i'r Ceidwadwyr yn etholiad 2015 ac fe fyddai'r nifer o aelodau seneddol o Gymru wedi gostwng o 40 i 30.
Pasiwyd y ddeddfwriaeth, lluniwyd y ffiniau newydd ond digwyddodd dim byd. Ar ôl methiant y cynlluniau i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi ochrodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r gwrthbleidiau a suddo'r cyfan o'r cynllun.
Ymlaen â ni i 2015 pan lwyddodd Cameron i ennill mwyafrif ar yr hen ffiniau ac atgyfodi'r cynllun. Bant â ni eto gyda set newydd o fapiau'n cael eu paratoi - y tro hwn gyda'r nifer o aelodau o Gymru yn gostwng i 29. Fe fyddai'r cynlluniau hynny wedi cael eu gwireddu hefyd - pe na bai Theresa May wedi galw etholiad yn gynharach eleni.
Unwaith yn rhagor ffiniau 2005 oedd yn cael eu defnyddio ond y tro hwn cafwyd senedd grog. Oes mwyafrif yn y senedd bresennol i gyflwyno'r newidiadau? Go brin, o gofio y byddai'r newidiadau yn ffafrio Sinn Fein ar draul y DUP. Twrciod, Nadolig ac ati!
Mae 'na gyfaddawd posib, un lle byddai'r nifer o aelodau seneddol yn aros yn ei hunfan ond gyda'r broses o gysoni maint etholaethau'n parhau. Fe fyddai hynny'n golygu 31 o seddi i Gymru ac, wrth gwrs, set cwbwl newydd o fapiau.
Neu fe allai pethau aros fel maen nhw gyda ffiniau oedrannus 2005 yn cael eu hatgyfodi ar gyfer yr etholiad nesaf - pryd bynnag y daw hwnnw. Yn y cyfamser parhau â llafur Sisyphus mae'r Comisiwn Ffiniau.