Cyhuddo Michael Gove o greu gwrthdaro cyfansoddiadol

  • Cyhoeddwyd
griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lesley Griffiths mae San Steffan yn ceisio osgoi datganoli

Mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd Lesley Griffiths wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o geisio creu gwrthdaro cyfansoddiadol â Chymru.

Yn ôl Ms Griffiths mae'r mesur i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ymgais i "osgoi datganoli" a "chyfyngu" ar rymoedd Llywodraeth Cymru dros ffermio a'r amgylchedd.

Fe ddaw ei sylwadau ar ôl i Michael Gove, Ysgrifennydd Amaeth San Steffan, ddweud y byddai gan y gwledydd datganoledig eu systemau amaeth eu hunain yn dilyn Brexit.

Dywedodd Ms Griffiths nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i dderbyn y mesur Brexit yn ei ffurf bresennol, ac fe ddywedodd bod angen mwy o "eglurdeb a sicrwydd" ar ffermwyr Cymru.

Roedd yn anffodus, meddai, nad oedd Mr Gove wedi mynychu mwy nag un cyfarfod cyd-weinidogol ar yr amgylchedd ers iddo gael ei benodi i'r cabinet ym mis Mehefin.

'Perthynas ffantastig'

Cafodd y ddau weinidog amgylchedd gyfarfod yn ystod y sioe amaethyddol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf. Bryd hynny dywedodd Mr Gove fod y berthynas â Llywodraeth Cymru yn "ffantastig".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lesley Griffiths yn trafod Brexit gyda Michael Gove ddydd LLun

Ddydd Mercher yn San Steffan dywedodd Mr Gove y gallai'r cenhedloedd datganoledig gael eu systemau amaeth eu hunain, a'u cyllido yn unol â hynny.

Byddai hynny'n dibynnu, meddai, ar y trafodaethau ar fynediad i'r farchnad sengl, ac yn amodol ar beidio amharu ar gytundebau masnach eraill.

Bydd Lesley Griffiths a Michael Gove yn cwrdd ddydd Llun i drafod y sefyllfa ddiweddara'.

'Goblygiadau llym'

Rhybuddiodd Llywydd NFU Cymru, Stephen James ei fod yn allweddol cael cytundeb Brexit effeithiol.

Dywedodd y byddai methiant i gael cytundeb yn creu "goblygiadau llym i ffermwyr Cymru".

Roedd amynedd yn brin, meddai, o fewn y diwydiant ynglŷn â'r trafodaethau presennol.

Galwodd am drefniant lle byddai'r DU yn parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Dollau tan fod cytundeb masnach ehangach yn cael eu sicrhau.