Lle mae pethau'n sefyll

  • Cyhoeddwyd

Os nad ydw i'n camddarllen pethau fe fydd y corwyntoedd gwleidyddol sydd wedi bod yn chwythu trwy'r lle yma ers marwolaeth Carl Sargeant yn gostegu rhyw faint heddiw wrth i lygaid pawb droi at San Steffan a'r gyllideb. Ond saib yn y stori nid diwedd arni yw hon ac mae'n rhoi cyfle i mi gymryd cam yn ôl i weld lle yn union mae pethau'n sefyll ac ystyried beth sy'n debyg o ddigwydd nesaf.

Y cwestiynau pwysicaf yn hyn oll wrth gwrs yw'r rheiny sy'n cael eu gofyn gan deulu Carl ei hun. Fe ddylai'r cwest a'r ymchwiliad a gyhoeddwyd gan Carwyn Jones ar ôl ychydig o oedi diangen gynnig atebion i'r rheiny, gobeithio. Afraid yw dweud y byddai unrhyw feirniadaeth ddifrïol o ymddygiad y Prif Weinidog yn y dyddiau cyn marwolaeth y cyn-ysgrifennydd yn andwyol iddo yn wleidyddol.

Problem bosib ar y gorwel yw'r ymchwiliad i Carwyn Jones, y cyhuddiadau gan Leighton Andrews, Steve Jones ac eraill dienw ynghylch digwyddiadau yn hydref 2014 yw'r broblem sy'n ei wynebu'n syth. Fe brynodd y Prif Weinidog beth amser ddoe trwy gytuno bod angen scriwtineiddio'r cyhuddiadau a'i ymateb iddyn nhw. Fe fydd yn rhaid iddo fanylu ynghylch y scriwtini honno cyn dadl y gwrthbleidiau wythnos nesaf lle bydd cynnig yn galw am ymchwiliad i'r holl gyhuddiadau gan bwyllgor cynulliad yn cael ei drafod. Fel mae pethau'n sefyll dyw Carwyn Jones ddim yn gallu bod yn sicr na fyddai rhai o'r aelodau meinciau cefn Llafur yn cefnogi'r cynnig ac fydd angen iddo gynnig rhywbeth amgen er mwyn sicrhau eu cefnogaeth.

Y ddogfen allweddol yn hyn oll yw'r adroddiad ysgrifenedig gan was sifil wnaeth ymchwilio i gwynion Leighton Andrews yn 2014. Mae'n amlwg bod Leighton Andrews a Steve Jones o'r farn mai ymchwiliad i gyhuddiadau o fwlian oedd yr ymchwiliad hwnnw. Mae Carwyn Jones wedi gwadu hynny ar goedd.

Cyhoedder yr adroddiad felly a chawn gyd ddeall beth ddigwyddodd. Rwy'n gwybod hyd sicrwydd bod yr adroddiad yn bodoli. Rwy'n gwybod pwy sgwennodd y peth hefyd ond dydw i ddim am ei henwi. Er ei les gwleidyddol ei hun fe ddylai Carwyn Jones gyhoeddi'r peth - os nad oedd ganddo fe rywbeth i guddio, wrth gwrs.

Problem i Carwyn Jones ei hun yw digwyddiadau 2014 ond mae gan Lafur Cymru broblem arall sef yr isetholiad y bydd yn rhaid ei gynnal yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhywbryd cyn y Gwanwyn. Y cwestiwn sy'n wynebu'r blaid yn ganolog yw faint o ryddid i roi i'r blaid leol wrth ddewis ymgeisydd.

Gallasai'r blaid leol yn hawdd ddewis ymgeisydd a fyddai'n cyrraedd Bae Caerdydd gyda'r bwriad o fod yn ddraenen yn ystlys Carwyn Jones yn sgil marwolaeth Carl Sargeant. Fe fyddai cael rhywun fel Bernie Attridge ar y meinciau Llafur yn hunllefus i'r Prif Weinidog. Ar y llaw arall, os ydy'r blaid ganolog yn potsio gormod yn yr enwebiad gallasai hynny esgor ar yr union sefyllfa wnaeth ddigwydd ym Mlaenau Gwent yn achos Peter Law gydag aelod o deulu Carl neu gyfaill iddo yn herio hegemoni'r blaid.

Fe fydd hyn oll yn rhygnu ymlaen am fisoedd ac yn gwmwl dros y Llywodraeth. Megis cychwyn mae'r stori, mae gen i ofn, ac mae'n ymddangos i mi bod Carwyn Jones eisoes wedi gwario llawer o'i gyfalaf gwleidyddol o fewn y grŵp Llafur wrth amddiffyn ei sefyllfa.

Cyn i hyn oll ddigwydd un o'r cwestiynau oedd cael ei ofyn yn aml o gwmpas y lle 'ma oedd 'pryd fydd yn Carwyn yn dewis mynd?' Erbyn hyn mae'r cwestiwn wedi newid ychydig. 'Ai Carwyn fydd yn dewis mynd?' sy'n cael ei ofyn nawr.