Carcharu cogydd o Gaerdydd am lofruddiaeth yn 1978
- Cyhoeddwyd
Mae cogydd o Gaerdydd wedi'i garcharu am o leiaf 16 mlynedd am lofruddio perchennog tŷ bwyta yn Aberdeen yn 1978.
Clywodd llys fod Riasat Khan, 63, wedi trwynau Kazi Ahmad, 41, mewn fflat yn y ddinas cyn ffoi dramor.
Roedd Khan yn gogydd yn nhŷ bwyta Mr Amhad, y Raj Dulal, ar adeg y digwyddiad.
Cafwyd yn euog gan reithgor a'i garcharu am oes, a bydd yn treulio isafswm o 16 mlynedd dan glo.
Clywodd llys yng Nghaeredin y byddai'r ddau yn ymweld â chasinos ar ôl gwaith.
Roedd Khan wedi honni fod Mr Ahmad eisiau rhyw, a'i fod wedi ei drywanu wrth iddo geisio amddiffyn ei hun.
Arestio mewn maes awyr
Dywedodd Khan wrth y llys ei fod wedi gwario llawer o arian Mr Ahmad mewn siop fetio cyn ffoi i Dover a dal y fferi i Ffrainc.
Clywodd y llys fod Khan wedi teithio i'r Eidal ac i Wlad Groeg, gan aros yno am wyth mis cyn symud yn ôl i Pacistan.
Fe arhosodd yno nes dechrau'r 1990au pan ddychwelodd i'r Deyrnas Unedig.
Cafodd ei arestio ym Maes Awyr Birmingham ym mis Mai y llynedd wrth iddo geisio teithio i Pacistan.