Prif weithredwr newydd i Fenter Caerdydd a'r Fro
- Cyhoeddwyd

Mae Menter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg wedi cyhoeddi mai Manon Rees-O'Brien fydd eu prif weithredwr nesaf.
Bydd yn olynu Siân Lewis ddechrau Chwefror ar ôl i hithau gael ei phenodi'n brif weithredwr newydd Urdd Gobaith Cymru.
Mae Ms Rees-O'Brien yn hanu o Ddinbych ac yn gweithio i Chwaraeon Cymru ers 16 mlynedd.
Ar hyn o bryd, hi sy'n arwain y berthynas rhwng Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru.
Cychwynnodd ei gyrfa yn y byd ariannol ar ôl graddio mewn Economeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Dywedodd bod hi'n "fraint ac anrhydedd" i gael arwain y ddwy fenter, a'i bod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda staff a gwirfoddolwyr "er mwyn parhau i gynnig cyfleoedd a chyflogaeth i ehangu a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg yn ein cymunedau".
Wrth groesawu'r penodiad, dywedodd Eryl Jones, cadeirydd Menter Caerdydd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda hi i ddatblygu gwaithgareddau ar drothwy dathliadau 20 mlynedd y Fenter yn 2018."