Cwestiynau, Atebion a Chelwyddau

  • Cyhoeddwyd

Sut mae cysoni'r ddau ddatganiad isod? Daw'r cyntaf o bost ar flog y cyn-ysgrifennydd, Leighton Andrews rhai dyddiau ar ôl marwolaeth Carl Sargeant.

Yesterday I told a couple of journalists that there had been deliberate personal undermining of Carl Sargeant from within the Welsh Labour Government over several years.

I am not going to name names today. But I made a complaint to the First Minister about one aspect of this, of which I had direct evidence, in the autumn of 2014. An informal investigation was undertaken. I then asked for it to be made formal. I was told it would be. I was never shown the outcome. There was no due process.

A dyma gwestiwn ac ateb ysgrifenedig ynghylch y datganiad hwnnw. Ar wefan y Cynulliad mae'r cwestiwn yn ddwyieithog ond yr ateb yn Saesneg yn unig. Gan fod geiriau'n bwysig yn fan hyn fe wnâi sticio at hynny.

Andrew RT Davies; A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pwy gafodd y cyfrifoldeb dros ymdrin â honiadau a wnaed gan y cyn-Weinidog Leighton Andrews ynghylch yr achosion yn 2014 o fwlio, brawychu, tanseilio bwriadol neu ymddygiad arall y gellid ei ddehongli felly, o fewn Llywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog ar 04/12/2017; No such allegations were made. There were no investigations and therefore no recommendations.

Cyn belled â fi'n gallu gweld mae dau esboniad posib.

Yr esboniad cyntaf yw hwn. Mae naill ai Leighton Andrews neu Carwyn Jones yn dweud celwydd. Mae Leighton Andrews yn mynnu bod ganddo fe dystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf dyddiaduron, negeseuon testun ac yn y blaen sy'n profi ei fersiwn e o'r hyn ddigwyddodd. Gan fod y cyn-ysgrifennydd wedi addo cydweithio â'r ymchwiliad annibynnol i'r helynt fe ddylai'r gwir ddod i'r fei yn hwyr neu hwyrach. Rwy'n cymryd taw dyna sy'n esbonio'r trydariad yma gan Leighton Andrews y bore 'ma.

"The final piece of advice I will give some of my ex-colleagues: when in a hole, stop digging."

Yr ail esboniad posib yw bod Leighton wedi gwneud cwyn yr oedd e'n ystyried fel un o 'deliberate clear undermining', ond bod diffiniad Carwyn Jones o danseilio yn wahanol i un Leighton Andrews. Mae 'na ffordd hawdd i ganfod ai dyna yw'r sefyllfa trwy ofyn tri chwestiwn penodol i'r Prif Weinidog.

1. A dderbyniwyd cwyn o unrhyw natur gan Leighton Andrews ynghylch ymddygiad aelodau swyddfa'r Prif Weinidog yn Hydref 2014?

2. A dderbyniwyd cwyn bod aelod o staff y Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth Leighton Andrews ynghylch cyngor cyfreithiol yn ymwneud â'r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod?

3. A wnaeth y Prif Weinidog addo i Leighton Andrews y byddai gwas sifil yn ymchwilio i'r honiadau, ac a wnaeth hynny ddigwydd?

Fe gawn weld os ddaw atebion.