Carcharu cic-focsiwr am geisio llofruddio ei gariad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 33 oed o Gasnewydd wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar am geisio llofruddio ei gariad yn ei fflat.
Clywodd Dennis Ross, sy'n gic-focsiwr, ei fod yn wynebu o leiaf saith mlynedd a 140 diwrnod yn y carchar, wedi i un plismon ddisgrifio'i achos fel yr un gwaethaf iddo ei weld erioed.
Dywedodd parafeddyg a gafodd ei alw i fflat ym mhentre'r Tŷ-du nad oedd posib dweud beth oedd hil nag ethnigrwydd y ferch "am fod gymaint o gleisiau ar ei chorff".
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd bod mam-gu Ross wedi ffonio 999, gan ddweud wrth swyddog ei fod e'n mynd i'w lladd hi.
Rhybudd: Gallai'r llun isod achosi loes.
Aeth yr heddlu i mewn i'r fflat a dod o hyd i Siân Davies ag anafiadau drosti yn gorwedd ar y gwely.
Doedd hi ddim yn gallu agor ei llygaid na siarad, ac roedd hi'n cael trafferth anadlu.
Roedd olion gwaed ar draws y fflat.
Roedd cymdogion yn dweud eu bod wedi clywed synau taro a phwnio dros gyfnod o rai dyddiau.
Cafodd Miss Davies ei chludo i uned gofal dwys, a bu'n rhaid iddi aros yn yr ysbyty am ddeufis.
Roedd rhaid iddi ddysgu cerdded eto, ac mewn datganiad dywedodd wrth y llys ei bod yn "deffro yn crynu a gwingo" ac nad yw'n gallu mynd allan ar ei phen ei hun.
'Dwyn i gyfrif'
Dywedodd Millie Davies ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Fe ymosododd y diffynnydd ar ei bartner dros benwythnos, a pharhau i wneud hynny hyd yn oed pan oedd hi'n anymwybodol.
"Cafodd y rhan fwyaf o'r ymchwiliad ei gynnal pan oedd y dioddefwr mewn coma.
"Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron achos grymus gan ddefnyddio tystiolaeth arbenigol o safleoedd yr ymosodiadau o fewn y fflat a arweiniodd, gydag adroddiad patholegydd, at ble euog yn fuan yn y broses.
"Rydym yn benderfynol o ddwyn rhai sy'n cyflawni trais yn y cartref i gyfrif. Gobeithiwn fod canlyniad yr achos yn rhoi peth cysur i Miss Davies."
Dywedodd y Barnwr Eleri Rees wrth Ross, sydd wedi ei gael yn euog o ymosod ar fenywod yn y gorffennol: "Rydych yn gic-focsiwr sydd wedi cael hyfforddiant helaeth - mae defnyddio'ch dyrnau a'ch traed chi fel defnyddio arf".
Wrth ei ddedfrydu, ychwanegodd: "Mae'n amhosib rhagweld pryd fydd hi'n ddiogel eich rhyddhau yn ôl i'r gymuned".