Ond gwenwyn fu

  • Cyhoeddwyd

I rai ohonom un o dasgau mwy pleserus y Dolig a'r Calan yw darllen yr holl lyfrau sydd wedi eu prynu yn ystod y flwyddyn ac sydd wedi bod yn magu llwch ar y silff. Un o'r rheiny i fi eleni oedd "Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd" - llyfr sydd, fel Ronseal, yn gwneud beth mae'n dweud ar y tun.

Diolch i'r awdur, Glen George, mae gen i lawer gwell ddealltwriaeth o Ystrad Clud, Rheged a'r gweddill na'r ychydig linellau o'r Gododdin yr oedd pobol o'n genhedlaeth i yn gorfod dysgu ar eu cof.

Fel un sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn ardal y llynnoedd mae'r awdur yn naturiol yn canolbwyntio ar Reged a chyrch aflwyddiannus Urien i yrru'r Saeson yn ôl i'r môr. Fe fydd ffans canu Taliesin yn gwybod y bu bron i'r cyrch hwnnw lwyddo nes i is-frenin eiddigeddus ladd Urien cyn iddo ymosod ar gadarnle olaf y Saeson ar ynys Metcaud. Na, doeddwn i ddim gwybod bod 'na enw Cymraeg ar Lindisfarne chwaith!

Mae hynny'n dod a ni at Mark Drakeford, Justine Greening a Jeremy Hunt!

Dydw i ddim yn cofio cyfnod mewn gwleidyddiaeth lle mae disgyblaeth plaid mor fregus a lle bod yr is-frenhinoedd mor barod i anwybyddu neu herio eu meistri. Mae hynny'n wir yma yn y Bae a hyd yn oed yn fwy felly yn San Steffan.

Yn achos Theresa May gellir priodoli ei gwendid i'r wâc yna yn Nolgellau a rhag i ni anghofio, cadoediad sy'n bodoli ar y meinciau Llafur nid heddwch. Gyda stormydd mawr Brexit o'u blaenau ni fyddai'n syndod gweld y ddwy blaid fawr gyda arweinwyr newydd erbyn yr etholiad nesaf.

Yma yn y Bae, mae'n ymddangos bod pobol fawr y blaid Lafur yn troi eu meddyliau at fywyd wedi Carwyn.

Does neb yn gwybod pryd fydd y Prif Weinidog yn rhoi ei dŵls ar y bar ond fe fydd pwy sy'n ei olynu yn dibynnu i raddau ar y system a ddefnyddir i'w ddewis. Dyw e ddim yn gyfrinach bod chwith y blaid yn deisyfu am gyfundrefn un aelod un bleidlais, debyg i'r un a ddefnyddiwyd i ethol Jeremy Corbyn. Mae Carwyn Jones a Phwyllgor Gwaith y blaid Gymreig yn gwneud popeth o fewn ei gallu i rwystro hynny rhag digwydd gan wybod y byddai'r system bresennol yn ffafrio ymgeisydd o'r tir canol.

Mae penderfyniad Mark Drakeford i uniaethu ei hun a'r rebeliaid yn brawf nid yn unig o'r ffordd y mae awdurdod Carwyn Jones, fel awdurdod Theresa May, yn raddol erydu ond o ba mor waedlyd y gallai'r frwydr i'w olynu fod.

Ond efallai dylai'r is-frenhinoedd bwyllo. Wedi'r cyfan yn y diwedd fe arweiniodd llofruddiaeth Urien at ddiflaniad ei deyrnas!