Deiseb yn galw am symud elusen gyffuriau ac alcohol o ysgol

  • Cyhoeddwyd
Heol CopperworksFfynhonnell y llun, Google

Mae grŵp cymunedol yn galw ar elusen sy'n gweithio i adleoli pobl sy'n gaeth i gyffuriau neu alcohol i symud eu canolfan oddi wrth ysgol newydd.

Mae gan elusen Chooselife ganolfan galw heibio ar Heol Copperworks, Llanelli ers 20 mlynedd, ond fe fydd Ysgol Pen Rhos yn agor gerllaw yn y gwanwyn.

Dywedodd y Safer Communities Action Group fod y lleoliadau yn "anghydnaws".

Bydd aelodau'r grŵp yn cyflwyno deiseb i Gyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher yn galw ar yr elusen gael ei symud.

Dywedodd Alan Andrews, sylfaenydd a phrif weithredwr Chooselife, ei fod yn deall y pryderon, ond cyhuddodd y grŵp o "ymddwyn gyda fendeta" a "chodi casineb yn y gymuned".

'Peryglus'

Mae'r ddeiseb yn galw ar y cyngor i "weithredu eu prif ddyletswydd" sef diogelu plant "drwy adleoli Chooselife".

Dywed y ddogfen fod y ganolfan wrth ymyl yr ysgol newydd yn "beryglus gan y bydd cannoedd o blant yn cerdded ar hyd Heol Copperworks".

Ychwanegodd fod "rhaid i un o'r cyfleusterau symud" ac oherwydd y buddsoddiad sydd eisoes wedi'i ymrwymo i'r ysgol, "fe fydd yn rhaid dewis Chooselife".

Dywedodd Mr Andrews fod y ganolfan "yn rhedeg yn dda iawn gyda llawer o ffiniau" ac ni fyddai unrhyw un sy'n gweithredu'n anaddas yn gallu dychwelyd.

Mae'n helpu tua 300 o bobl y flwyddyn, ac ar hyn o bryd mae'n gartref i 23 o bobl a fyddai fel arall yn ddigartref.

Sefydlwyd y Safer Communities Action Group, sy'n gweithredu er budd cymunedau, yn 2005.

Dywedodd ei his-gadeirydd, Debbie Chapman, eu bod wedi siarad â phobl yn yr ardal leol, ac wedi casglu 178 o lofnodion.

Dywedodd fod "ymddygiad gwrthgymdeithasol" wedi bod yn gysylltiedig â Chooselife, gan gynnwys nodwyddau wedi eu defnyddio yn cael eu darganfod ger safle'r ysgol newydd.