Sky Vision yn buddsoddi mwy o arian yn Avanti Media

  • Cyhoeddwyd
AvantiFfynhonnell y llun, Google

Mae Sky Vision wedi cyhoeddi cytundeb newydd gydag Avanti Media fydd yn golygu cynyddu eu cyfran yn y cwmni i 51%.

Fe brynodd Sky Vision, sydd yn rhan o'r cwmni Sky, gyfran yn y cwmni ddechrau 2017 ac maent wedi penderfynu prynu siâr fwy yn dilyn "perthynas waith lwyddiannus".

Arbenigo mewn rhaglenni ffeithiol ac adloniant mae Avanti gan gynhyrchu rhaglenni ar draws y DU a hefyd rhai yn yr iaith Gymraeg.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1997 gan Emyr Afan a Mair Davies.