Dyn wedi marw ar ôl ymosodiad noswyl Nadolig Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Vista Lounge LLanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ym mar Vista Lounge ychydig ar ôl hanner nos

Mae dyn 52 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad difrifol yn Llanelli yn oriau mân noswyl Nadolig.

Bu farw Denzil Vaughan Edwards yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 36 oed ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar 24 Rhagfyr mewn cysylltiad â'r ymosodiad ym mar Vista Lounge.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio eto am wybodaeth, ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd heb gysylltu â nhw hyd yma.

Mae plismyn arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Edwards.

Mae gofyn i unrhyw un oedd yn Vista Lounge nos Sadwrn 23 Rhagfyr neu oriau mân y diwrnod canlynol ffonio DS Ceri Evans neu DC Amy Davies ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555 111.