Pryder am agor siop sglodion 24 awr yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi gohirio penderfyniad ar gais i agor siop sglodion 24 awr yng Nghaerdydd.
Mae Parc Lane Fish and Chips ar Stryd y Frenhines yng nghanol y brifddinas eisiau'r hawl i gadw eu drysau'n agored bob awr o'r dydd am saith diwrnod yr wythnos, yn ogystal â'r hawl i weini alcohol tan hanner nos.
Yn ôl Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffrïwyr Pysgod, dymai fyddai'r siop sglodion 24 awr gyntaf yn y DU.
Ond mae pobl sy'n byw gerllaw a'r heddlu wedi codi pryderon y gallai hyn arwain at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Ar hyn o bryd, mae gan Parc Lane drwydded i fod ar agor a gwerthu alcohol tan 23:00.
Cwynion am sŵn
Mae'r perchennog, Parc Lane Trading Ltd, wedi gwneud cais i Gyngor Caerdydd am drwydded newydd i aros ar agor yn barhaol, yn ogystal â chais i ymestyn oriau agor clwb nos cyfagos Pulse.
Ond mae trigolion gerllaw wedi codi pryderon gan ddweud fod pobl yn cadw draw o'r ardal oherwydd prysurdeb yn hwyr yn y nos.
Mae Gwesty'r Jurys Inn yn gwrthwynebu'r cais, gan honni eu bod wedi gorfod ad-dalu gwesteion sydd wedi cael eu cadw'n effro gan sŵn yn hwyr yn y nos.
Mae Heddlu'r De'n dweud na fyddan nhw'n cefnogi'r cynlluniau, oni bai fod yr ymgeisydd yn gallu profi na fyddai'r newidiadau'n cael effaith negyddol ar yr ardal.
Wrth gyhoeddi bod penderfyniad ar y cais wedi ei ohirio, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd y byddai penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi "yn y dyfodol agos".