Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 1-1 Tottenham Hotspur

  • Cyhoeddwyd
Harry KaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Spurs yn llwyddo i ddod yn gyfartal yn yr ail hanner

Bydd Casnewydd yn ailchwarae Tottenham Hotspur yn Wembley wedi gêm gyfartal yng Nghwpan FA Lloegr.

Roedd awyrgylch drydanol yn Rodney Parade a phob sedd wedi ei llenwi, gan gynnwys y seddi ychwanegol ar gyfer y gêm yn y bedwaredd rownd.

Flwyddyn union yn ôl roedd Casnewydd ar waelod Adran Dau, ond ers hynny mae Mike Flynn y rheolwr wedi trawsnewid y clwb.

Wedi pedwar munud o'r gêm roedd y sŵn yn fyddarol wrth i Eric Dier golli'r bêl i Joss Labadie a hwnnw'n croesi at draed Frank Nouble, ond fe saethodd am y cymylau yn hytrach nag i mewn i'r rhwyd.

Roedd Casnewydd yn chwarae gydag egni rhyfeddol a doedd chwaraewyr Spurs ddim yn cael eiliad ar y bêl heb fod crysau melyn yr Alltudion yn gysgod uwch eu pen.

Prin oedd y cyfleon i Tottenham - un hanner cyfle yn cael ei fethu gan Harry Kane.

Ond yna wedi 38 munud dyma Padraig Amond yn penio'r bêl i'r rhwyd wedi gwaith gwych gan Robbie Willmott a Ben Tozer, a hyrddiodd y bêl i flwch cosbi Spurs.

Ffrwydrodd y sŵn yn Rodney Parade ac roedd y tîm o Adran Dau ar y blaen yn erbyn un o brif dimau'r Uwch Gynghrair.

Casnewydd yn dal eu tir

Roedd Tottenham yn pwyso'n drwm yn ystod yr ail hanner ond roedd chwaraewyr Casnewydd yn parhau i chwarae'n egnïol a rhwystro Spurs rhag chwarae eu gêm orau.

Ond roedd gafael Tottenham yn cryfhau yn enwedig wedi i Son Heung-min a Delle Alli ddod i'r cae.

Gydag wyth munud i fynd fe ddaeth yr anorfod - y bêl yn dod i'r cwrt cosbi o gornel gan Son, a Harry Kane yno wrth y postyn pellaf i droi'r bêl i gefn y rhwyd.

Yn ystod y pedwar munud o amser ychwanegol roedd y tensiwn yn aruthrol a Spurs yn cael sawl cic gornel, ond fe lwyddodd Casnewydd i ddal eu tir hyd y diwedd.

Y wobr i'r Alltudion ar ôl chwarae yn rhyfeddol yw gêm arall yn erbyn Spurs yn Wembley.