Gwobr cyfraniad oes i'r Fonesig Siân Phillips

  • Cyhoeddwyd
Y Fonesig Siân PhillipsFfynhonnell y llun, PA

Mae un o actorion amlycaf Cymru, y Fonesig Siân Phillips wedi derbyn gwobr cyfraniad oes gan y BBC.

Cafodd ei chydnabod am ei gyrfa o dros 70 mlynedd yng Ngwobrau Dramâu Sain y BBC.

Fe ddechreuodd ei gyrfa radio yn 1944 ac mae hi wedi ymddangos mewn cynyrchiadau fel The Archers ac addasiad o Tinker, Tailor, Soldier, Spy, llyfr John le Carré.

"Rydw i wastad wedi bod yn ddiolchgar i'r BBC," meddai.

"Mae'n golygu mwy nac unrhyw beth. Roeddwn i mor falch, ac roedd hi'n ychydig o syndod.

"Mae'n rhan mor fawr o fy mywyd a rhan mor fawr o fy ieuenctid yng Nghymru."

Cafodd y Fonesig Siân Phillips ei geni yng Ngwauncaegurwen, Castell-nedd Port Talbot, ac fe ddechreuodd ei gyrfa darlledu â hithau ond yn 11 oed ar ôl ennill cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd a newyddiadurwr cyn symud at actio.