Arfon Jones: Cytundeb cymunedau Wrecsam yn 'neges gref'

  • Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o Bortiwgeaid yn byw yn ardal Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd o Bortiwgeaid yn byw yn ardal Wrecsam

Mae cytundeb cymunedol yn Wrecsam yn "gyrru neges gref" i'r rheiny sy'n sarhau lleiafrifoedd, yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Yr wythnos diwethaf, arwyddodd y cyngor sir "brotocol cydweithrediad" gyda Llywodraeth Portiwgal, sy'n ymrwymiad i gynnal gwasanaethau i'r gymuned Bortiwgeaidd yn yr ardal.

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y gogledd bod y gefnogaeth mae'r sir yn ei chynnig i'r gymuned yn dangos "bod unrhyw gasineb yn annerbyniol".

Wrecsam yw'r dref gyntaf yn y DU i arwyddo cytundeb o'r fath a gobaith arweinwyr cymunedol ydy bod modd lledaenu'r model.

Disgrifiad,

Arfon Jones: 'Neges gref cytundeb cymunedau'

Cymorth gyda phasportau

Ffrwyth llafur grwpiau fel CLPW - Cymuned Iaith Bortiwgaleg Wrecsam - yw'r cytundeb.

Mae rhai cannoedd o Bortiwgeaid yn yr ardal, ond mae CLPW, sy'n gwmni buddiant cymunedol, hefyd yno i bobl sy'n siarad yr iaith Bortiwgaleg ac yn hanu o wledydd fel Angola, Mozambique a Brasil.

Mae'r gymuned wedi llwyddo yn barod i ddod â rhai o wasanaethau conswliaeth Portiwgal ym Manceinion draw i Wrecsam, gyda swyddogion yn dod i'r dref ar ddyddiau penodedig i gynnig gwasanaethau fel adnewyddu pasportau.

Bydd y sesiwn nesaf o'r fath yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref Wrecsam

Dyma'r math o gydweithio agos mae'r protocol yn ei gydnabod ac mae Cyngor Sir Wrecsam a Llywodraeth Portiwgal, yn ymrwymo i'w atgyfnerthu.

Disgrifiad o’r llun,

Iolanda Banu Viegas: Creu cynghrair rhwng dwy wlad

Gan ddweud bod angen cymorth ar aelodau o'r diaspora Portiwgeaidd sy'n symud yma, dywedodd Iolanda Banu Viegas o CLPW bod y protocol yn "gam positif".

"Mae'n ddechrau da, ac yn gam da," meddai.

"Ond byddan ni'n parhau i weithio er mwyn helpu gydag integreiddio, sy'n hynod bwysig.

"Ond mae'n gam positif achos mae'n creu cynghrair rhwng dwy wlad.

"Nawr byddai'n dda bod cymunedau eraill yn arwyddo protocolau, fel bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd tuag at yr un nod."

'Neges gref i'r gymuned'

Yn ôl Arfon Jones, mae'r ymrwymiad mae'r protocol yn ei gynrychioli yn bwysig.

"Fel awdurdodau cyhoeddus, mae ganddon ni i gyd ein rhan i chwarae i ddangos bod cymunedau fel y Portiwgeaid neu'r Pwyliaid... yn dderbyniol," meddai.

"A bod unrhyw gasineb yn annerbyniol, ac fe ddylsan ni ymladd yn erbyn hynna."

Ychwanegodd ei fod yn credu bydd "nifer yn dilyn y model sydd wedi digwydd yn Wrecsam."

Dywedodd Monika Czaja o'r Gymdeithas Eingl-Bwylaidd yn yr ardal y byddai cael gwasanaethau ar stepen y drws o fudd i'r gymuned sylweddol o Bwyliaid yn y dref.

"Nawr mae'n rhaid i ni fynd i Fanceinion ar gyfer gwasanaethau llywodraethol," meddai.

"Ond dim pawb sy'n gallu mynd ac mae'n rhaid disgwyl am amser hir am basport a phethau tebyg.

"Os byddai 'na fan yma lle allwn ni ddelio efo'r fath bethau, yna byddai'n llawer gwell i'r Pwyliaid.

"Ac os ydan ni'n cychwyn yma yn Wrecsam, a bod y gonswliaeth a'r cyngor yn derbyn y syniad, yna gallai agor y drws i drefi eraill."

Mae'r protocol cydweithredu rhwng Llywodraeth Portiwgal a Chyngor Wrecsam yn para am flwyddyn am y tro a does dim ymrwymiad ariannol yn rhan o'r fargen.