Darn o wallt 200 oed Nelson ar werth mewn ocsiwn ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd eitem anghyffredin iawn yn mynd ar werth gan arwerthwyr yn Ngaerwen ar Ynys Môn ddydd Iau - darn o wallt yr Arglwydd Nelson.

Fe gafodd y darn ei roi i gwmni Morgan Evans ynghyd â llythyr ategol o 1911 yn honni bod y gwallt yn ddilys.

Roedd Nelson yn gadlywydd llyngesol ac yn enwog am ei fuddugoliaethau yn erbyn y Ffrancwyr yn ystod Rhyfeloedd Napoleon.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr cwmni Morgan Evans, Simon Bower, mae'r eitemau hyn "ymhlith yr eitemau mwyaf anghyffredin 'da ni wedi eu cael".

Cudyn gwallt Ffynhonnell y llun, Morgan Evans & Co Ltd Saleroom Auctions

Fe ddywedodd Simon Bower, sydd hefyd yn wyneb cyfarwydd ar raglen BBC The Bidding Room, wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru:

"Dydy o'm yn fath o beth 'dan ni'n ei weld bob dydd ar Sir Fôn!

"Does dim llawer o bethau fel hyn yn troi fyny. Mae meddwl eich bod yn gafael rhywbeth sy'n 250 oed, mae'n unigryw iawn."

Wrth egluro sut y gallan nhw fod yn sicr bod yr eitem yn wir, dywedodd Mr Bower bod llythyr o 1911 gan athro prifysgol o'r Alban yn dod gyda'r cudyn.

"Yn y llythyr, mae o'n sôn am y pisiyn o wallt yma ac yn cyfeirio at y bocs sy'n dal y pisiyn o wallt. Ac yn ei eirau fo: I believe it to be a relic of Lord Nelson".

Eglurodd, nawr bod ocsiynau ar y we, mae'n galluogi casglwyr ledled y byd i roi cynnig am yr eitem. Bydd yn debygol o apelio at bobl sy'n casglu pethau hanesyddol, meddai Mr Bower, a'i fod o'n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosib yn gwybod fod y cudyn gwallt ar ocsiwn.

LlythyrFfynhonnell y llun, Morgan Evans & Co Ltd Saleroom Auctions

Pwy oedd yr Arglwydd Nelson?

  • Cafodd Horatio Nelson ei eni ar 29 Medi 1758 yn Norfolk

  • Rhwng 1794 ac 1805, o dan arweinyddiaeth Nelson, fe fu'r Llynges Frenhinol yn llwyddiannus yn erbyn y Ffrancwyr

  • Bu farw Nelson ar 21 Hydref 1805

Amcanbris

Yn seiliedig ar eitemau tebyg sydd wedi dod i sylw'r arwerthwr yn y gorffennol, awgrymodd Mr Bower:

"Mae prisiau yn dueddol i fynd o ganol y cannoedd, rhyw £600 i £800, i fyny i ychydig o filoedd. Felly, fyswn i'n gobeithio y bydd hwn rhywle yn y canol.

"'Dan ni wedi'i roi o mewn fel £800-£1200 fel amcan bris. Ond ar ddiwedd y dydd, pwy sydd i wybod, ynde?"

Pan fydd rhywbeth mor unigryw â hyn ar werth dywedodd fod amgueddfeydd yn rhoi cynnig amdanynt, ond ar y cyfan casglwr preifat sy'n prynu'r math yma o eitem fel arfer.

Llythyr a'r pot a bocs sy'n dal y cudyn gwalltFfynhonnell y llun, Morgan Evans & Co Ltd Saleroom Auctions

Mae'r arwerthwr ei hun yn hoffi pan fydd pethau Cymreig yn mynd ar werth, a dywedodd bod un eitem yn yr un ocsiwn â gwallt yr Arglwydd Nelson wedi dal ei sylw.

Mae'n hoffi'r eitemau Cymreig, meddai "ddim cyn gymaint o safbwynt eu bod nhw werth lot o arian, ond yr hanes tu ôl i rywbeth fydda' i'n mwynhau".

Yr un sydd wedi mynd â'i fryd y tro hwn yw ffigwr o fenyw mewn gwisg Gymreig sydd wedi'i gerfio o bren, sydd rhyw chwech i saith modfedd o daldra.

"Mae'n hanes cymuned mewn ffordd, [yn dangos] sut oedd pobl yn gwneud pethau gan ddefnyddio pethau oedd rownd eu tŷ nhw i greu rhywbeth.

"Mae'r stori tu ôl i rhywbeth cyn bwysiced â'r eitem ei hun."

Ffigwr prenFfynhonnell y llun, Morgan Evans & Co Ltd Saleroom Auctions

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig