Lluniau: Dydd Sul yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha'r rhagolygon, fe wnaeth y glaw gadw draw ac fe roedd yr haul eto'n gwenu ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Dyma flas o ddiwrnod llawn cystadlu, hwyl a digwyddiadau di-rif.

Roedd yna ddawnswyr stryd yn gorymdeithio ar y maes ddydd Sul

Bydd y newyddiadurwr Maxine Hughes, Arweinydd Cymru a'r Byd yn cael ei hurddo i'r wisg las ddydd Gwener

Harri a Llew - chwaraewyr y dyfodol i dîm Wrecsam efallai?

Gwilym, Ann, Carys ac Elin yn mwynhau gêm o bêl-droed bwrdd ar stondin S4C. Gwilym, tad-cu Carys, oedd y chwaraewr fwyaf cystadleuol

Aled Williams a Byron Davies o Fand Pres Lewis Merthyr ar y ffordd i'r maes i gystadlu yn y gystadleuaeth i fandiau pres adran un

Sgipio a stepio yn y Tŷ Gwerin gyda Dawnswyr Môn

Mae yna groeso cynnes gan y 'Sgwad Steddfod' ym Mhentref Wrecsam

Wel, mae gan Martha Nel ac Elis Moi o Drefach ger Llanelli ffordd hwylus iawn i fynd o amgylch y maes

Roedd y ciw i'r Pafiliwn ar gyfer y gystadleuaeth Côr newydd i'r Eisteddfod yn cyrraedd yr arwydd mawr coch

Yn cystadlu yn y gystadleuaeth Côr newydd i'r Eisteddfod oedd Côr Heddlu Gogledd Cymru gyda dros 40 o aelodau. Dyma nhw gefn llwyfan cyn cystadlu

Hefyd yn cystadlu oedd disgyblion Ysgol Plas Coch, Wrecsam. Dywedodd eu pennaeth Mr. Osian Jones ei fod yn "braf cael cystadlu yn lleol a rhoi cyfle i'r plant a'u teuluoedd"

Fe ddenodd y digrifwr Gethin Evans lond pabell o gynulleidfa yng Nghaffi Maes B

Y dyrfa yn heidio i weld Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon eraill o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl