Beth mae hi'n ei olygu i fod yn faer?

Heledd ap GwynforFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
  • Cyhoeddwyd

Cafodd Heledd ap Gwynfor ei hurddo yn Faer Caerfyrddin ym mis Mai; swydd sy'n cael ei chamddeall gan nifer, meddai.

Dyma beth mae'n ei olygu iddi hi:

Ges i fy seremoni i 'fy ngwneud yn Faer' ar dref Caerfyrddin bron i dri mis yn ôl. Roedd hi'n seremoni hyfryd iawn - bron fel cyfarfod cyngor tref ar raddfa llawer mwy.

Fe'i cynhaliwyd yn yr union fan cafodd fy nhad-cu - Dr Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru dros Sir Gaerfyrddin - ei ddatgan fel AS nôl yn 1966 o flaen torf enfawr o gefnogwyr ar y sgwâr islaw'r hen falconi sydd bellach yn rhy beryglus i gamu arni.

Yn wahanol iawn i fy nhad-cu, dim ond cefnogaeth 17 o gynghorwyr tref oedd eu hangen arna'i er mwyn rhoi i mi'r cyfrifoldeb o fod yn gynrychiolydd tref hynaf Cymru.

Hefyd yn wahanol i Tad-cu, dwi'n falch dweud i mi gael 100% o'r gefnogaeth!

Heledd gyda'r gofeb i'w thad-cuFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Heledd gyda'r gofeb i'w thad-cu, Gwynfor Evans. Mae hi'n falch ei bod hi - fel roedd yntau - yn gallu gwasanaethu trigolion Caerfyrddin

Mae hi'n fraint cael cynrychioli tref Caerfyrddin, ond bobl bach, mae hi wedi fy synnu cynifer o bobl sydd yn anwybodus am rôl y maer - neu cynifer sydd yn meddwl eu bod yn gwybod beth yw ystyr y rôl, a'r wybodaeth hynny yn hanu o anwybodaeth.

Ar y llaw arall dyw e ddim yn fy synnu bod cymaint o anwybodaeth yno, wedi'r cyfan mae diddordeb pobl mewn gwleidyddiaeth leol yn isel iawn a nifer o gynghorau trefi a bro yn ei chael hi'n anodd i ddenu cynghorwyr newydd.

Efallai bod hynny â wnelo â'r ffaith ein bod ni yn wirfoddolwyr. Un sylw welais i ar y cyfryngau cymdeithasol oedd ein bod yn 'leinio ein pocedi' er budd ein hunain - enghraifft berffaith o rannu gwybodaeth fel ffaith, a hwnnw yn anwiredd llwyr.

Un perk dwi wedi ei gael tra'n dwyn teitl Maer y dref, yw pan gadwodd y Coleg Celf le i mi mewn lle parcio, trwy osod côn parcio yn y man parcio ag arwydd wedi sticio arno â tâp cryf yn nodi 'Maer Caerfyrddin' yn glir arni!

Heledd ar gwchFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Heledd hefyd y teitl Llynghesydd y Morlys (Admiral of the Port), sy'n gorfod cynnal archwiliadau o afon Tywi

Mae nifer o bobl yn cymysgu Cyngor Tref â'r Cyngor Sir - pwynt sy'n cael ei brofi dipyn pan daw pobl ataf yn cwyno am hyn a hyn a nodi y dylwn i sortio hwn a hwn, dim ond i fi orfod esbonio mai cyfrifoldeb y Cyngor Sir yw hyn a hwn, ac ymddiheuro na alla' i helpu y tro yma.

Heledd GwynforFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Heledd yn agor Gŵyl Canol Dre ym mis

Alla' i ddim bod yn faer heb help amhrisiadwy fy nheulu. Mae fy ngŵr Rhys, neu 'gymar y Maer' o roi iddo ei deitl swyddogol, yn aml wrth fy ochr mewn nifer o ddigwyddiadau, ac hefyd ein mab Meredydd, sydd yn dod gyda mi ar sawl bore coffi ac yn cael mwynhau'r bisgedi blasus.

Weithiau, wrth i Rhys a minnau wisgo'n cadwyni sifig, croesawir Rhys i ddigwyddiad fel Maer yn hytrach na fi. Dyma gymryd yn ganiataol mai'r dyn sydd fel rheol yn dwyn y teitl swydd hwn.

Ac er bod maint y cadwyni yn dynodi fel arall - gyda'm cadwyn i lawer trymach ac yn amlwg wedi'i gwneud ar gyfer ysgwyddau llydan - mae aml i berson wedi mynd at Rhys i siglo'i law a fyntai'n gwisgo'r gadwyn deneuach, harddach, llai o faint, dim ond i Rhys fy ngwthio i ymlaen ac esbonio mai fi mewn gwirionedd, yw'r Maer.

Cyngor Tref CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Tref Caerfyrddin: Heledd yw'r maer, nid ei gŵr Rhys (ar ei dde), sydd â chadwyn llawer llai!

Mae'r rôl hwn wedi fy nghymryd i bob twll a chornel o Gaerfyrddin; dwi wedi dod ar draws llefydd na wyddwn am eu bodolaeth; dwi wedi cwrdd â phobl arbennig sydd yn gwneud gwaith anhygoel gan fwyaf yn wirfoddol; a dwi wedi cael y fraint i ymweld â sefydliadau a mudiadau sydd yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd byw pobl y dref hwn.

Mae bod yn Faer yn fraint, yn her, yn gyfrifoldeb, ac yn brofiad sy'n agor llygaid. Mae'n fy atgoffa'n gyson o'r grym sydd gan gymuned pan mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd – yn dawel ac yn ddiflino – er lles pawb.

Wrth edrych ymlaen at weddill fy nghyfnod fel Maer, fy ngobaith yw y gallaf barhau i gynrychioli Caerfyrddin gyda balchder, agwedd agored, a pharodrwydd i wrando.

Oherwydd yn y pen draw, dyna yw gwir ystyr y rôl hon: gwasanaethu'r dref, ei phobl, a'i dyfodol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.