Y teganau pren o Orsedd y Beirdd 1914

- Cyhoeddwyd
Mae'r Orsedd yn olygfa gyfarwydd ym mhob Eisteddfod… ond ydych chi wedi gweld y derwyddon yn edrych fel yma o'r blaen?!
Dyma set deganau a gafodd ei wneud gan gwmni Teganau Dyffryn Clwyd yn Nhrefnant yn 1914.
Cafodd y cwmni ei sefydlu gan ddynes leol, Mary Heaton, a oedd yn byw ym Mhlas Heaton yn Henllan. Roedd hi'n poeni fod gwaith yn brin i ffermwyr yn ystod misoedd y gaeaf.
Felly yn 1909, dechreuodd ysgol nos i ddysgu gweithwyr sut i gerfio teganau bach o bren, gyda help y saer lleol, Edward Jones. Cafodd y gwaith o addurno'r teganau ei roi i ferched yr ardal.

Datblygodd hyn yn fusnes llwyddiannus, gyda'r teganau yn cael eu gwerthu ledled y byd, yn dod i sylw'r teulu brenhinol ac yn ennill gwobrau. Rhwng 1909 ac 1914, mae sôn fod 70 o bobl leol yn cael eu cyflogi yn y ffatri fach yn Nhrefnant, a bod tua 20,000 o deganau wedi eu creu.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd y cwmni gyflogi milwyr oedd wedi brifo; arfer a barhaodd ar ôl i filwyr ddychwelyd adref ar ddiwedd y rhyfel.
Cafodd set deganau pren ei wneud o Orsedd y Beirdd 1914, ond oherwydd y Rhyfel, cafodd Eisteddfod Bangor ei gohirio tan 1915.

Yr Archdderwydd yn y set yw Dyfed, a oedd yn y swydd o 1905 tan 1923
Roedd Mary wedi ei hurddo i'r Orsedd, fel Mair Hettwn, ac roedd teganau'r cwmni wedi eu harddangos fwy nag unwaith yn y brifwyl, felly roedd cysylltiad rhwng y busnes a'r Eisteddfod wedi bod erioed.
Enillodd y set deganau Yr Orsedd a Chôr yr Eisteddfod fedalau mewn arddangosfa grefftau yn Neuadd Albert, Llundain yn 1918.
Cafodd y set ei arddangos yn neuadd y dref Bangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Yn 1917, prynodd yr Arglwydd Leverhulme y modelau, a cawson nhw eu harddangos yn Ninbych cyn eu rhoi i Amgueddfa Cymru.

Yr arddangosfa yn Y Lle Hanes yn Eisteddfod 2017
Yn ystod Eisteddfod 2017 yn Ynys Môn, cafodd y casgliad ei arddangos ym mhabell Y Lle Hanes, mewn cyd-weithrediad ag Amgueddfa Cymru, Cadw, a'r Comisiwn Brenhinol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un oedd yn gweithio yn y babell ac yn gwarchod y set oedd Dr Ffion Reynolds, sydd wrth ei bodd gyda'r teganau:
"Syniad grŵp Y Lle Hanes oedd dod â chasgliadau'r Derwyddion yn fyw, am ein bod ni yn 'neud y babell ar Ynys Môn.
"Dwi'n caru'r modelau bach, ma' nhw yn hollol ffab. Bysa'n grêt cael gwybod mwy am y teganau, a bysa'n hollol amazing eu hail-greu nhw rhywsut!"
Os oes gennych chi fwy o wybodaeth am y teganau pren gorseddol, cysylltwch â cymrufyw@bbc.co.uk
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2020