Lluniau: Dydd Sadwrn yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Wedi'r holl baratoi, codi arian a gwaith caled, roedd yr haul yn gwenu ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsan. Dyma rai o luniau'r dydd:

Sioned a Dylan gyda'u plant Nedw a Greta ar y Maen Llog. Roedd Nedw a Greta yn edrych ymlaen at ffeindio stondin i liwio ar ôl i Mam a Dad gael gweld Band Deiniolen yn cystadlu yn Y Pafiliwn

Fe roddodd yr actor Mark Lewis Jones ei araith fel Llywydd yr Eisteddfod yn Y Pafiliwn. Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'n teimlo yn sbeshal yn barod, 'da ni yma o'r diwedd."

Mae Tim, Martha a'u merched Issy a Milly yn byw filltir i ffwrdd o faes yr Eisteddfod a dyma eu heisteddfod cyntaf. Dyma nhw yn cael seibiant yng ngardd Dôl Ofalgar. Eu hargraffiadau cyntaf yw fod "yr Eisteddfod yn anhygoel" a maen nhw'n edrych ymlaen at ddiwrnod arall yma'n barod

Band Pres Llandudno yn ymarfer cyn cystadlu yn y gystadleuaeth i Fandiau Pres Dosbarth 4

Hogi Hogi Hogi! Bwyd, bwyd, bwyd! Tybed pa mor hir fydd y ciwiau bwyd erbyn diwedd yr wythnos...

Picnic cyn cystadlu. Bu Nel, Mared, Cadi a Hanna (oedd wrthi'n ciwio am frechdan pan dynnwyd y llun) yn cystadlu gyda pherfformiad theatrig ar ôl cael cinio

Roedd yn rhaid i Fand Pres Margam gael llun o flaen yr arwydd chwedlonol yma ar ôl cystadlu

Iechyd Da gan Fand Pres Wrecsam sy'n falch o gystadlu a chefnogi eu prifwyl nhw

Roedd yna sgertiau lliwgar iawn ar lwyfan agored y dawnsio stryd

Tîm Y Ffoaduriaid a thîm Dros yr Aber yn mynd benben â'i gilydd am sêl bendith Y Meuryn yn rownd derfynol Y Talwrn

Bu Tinna Mannering, Maer Wrecsam (dde) a'i chonsort Helen Briscoe yn crwydro'r maes ac maen nhw'n dweud ei fod yn anrhydedd i groesawu'r Eisteddfod i Wrecsam

Y gantores Buddug ar fin cychwyn gig cyntaf ei hwythnos yng Nghaffi Maes B

John, Philip a Neil o Fand Brenhinol Tref Bwcle yn codi eu cwpan ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth i fandiau pres 2 a 3
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon eraill o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl