Yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis Cymru 2024

- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi rhestrau o'r 100 enw mwyaf poblogaidd i ferched a bechgyn yng Nghymru a Lloegr yn 2024.
Dyma restrau Cymru Fyw o'r enwau Cymreig mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru yn 2024.
Enwau'r merched (a'r nifer)
1. Mali (91)
2. Erin (53)
3. Mabli (50)
4. Seren (49)
5. Cadi (45)
6. Alys (41)
7. Eira (39)
7. Lili (39)
7. Nansi (39)
10. Elsi (36)
Mali yw'r 13eg enw ar y rhestr 100 enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru - wedi codi tri safle o restr 2023. Mali oedd ar frig y rhestr o enwau Cymreig eleni - a llynedd.
Erin oedd yr ail enw Cymreig mwyaf poblogaidd eto eleni hefyd.
Roedd yr un faint o fabis wedi cael eu henwi yn Eira, Lili a Nansi - 39 yr un.
Yr enwau Cymreig eraill sydd ar y rhestr yw Ffion, Efa, Anwen a Lowri.
Olivia oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Nghymru unwaith eto eleni, gyda 136 o ferched bach yn cael eu henwi'n Olivia.
Elin a Lili oedd yr enwau mwyaf poblogaidd ar fabis a anwyd yng Ngwynedd, Seren yng Ngheredigion ac Amelia yng Nghaerdydd ac yn Sir Gâr.
Enwau'r bechgyn (a'r nifer)
1. Arthur (145)
2. Osian (101)
3. Elis (93)
4. Macsen (83)
5. Jacob (78)
6. Dylan (75)
7. Harri (66)
8. Jac (65)
9. Caleb (56)
10. Owen (43)
Arthur oedd yr enw Cymreig fwyaf poblogaidd ar fechgyn unwaith eto gan fod y pedwerydd enw mwyaf poblogaidd allan o 100. Arthur oedd yr enw Cymreig mwyaf poblogaidd ar restr 2023 hefyd.
Hefyd yn ymddangos ar y rhestr mae'r enwau Cymreig yma: Ioan, Tomos, Cai, Idris ac Ifan.
Y tri enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a anwyd yng Nghymru yn 2022 yw Noah, Luca ac Oliver.
Jac oedd yr enw mwyaf poblogaidd ar fechgyn a anwyd yng Ngwynedd, Jack a Thomas yng Nghonwy, tra roedd Noah yn boblogaidd yng Nghaerdydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023