AS yn dweud iddo gael ei gam-drin gan gyn-bennaeth theatr ieuenctid

Chris BryantFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaeth AS Rhondda ac Ogwr y sylwadau mewn cyfweliad â phapur The Sunday Times

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Seneddol Llafur Syr Chris Bryant wedi dweud iddo gael ei gam-drin yn rhywiol yn ei arddegau gan gyn-bennaeth y National Youth Theatre - y diweddar Michael Croft.

Dywedodd Syr Chris fod Mr Croft, a fu farw yn 1986, wedi'i wahodd i swper bob nos tra roedd yn mynychu sesiynau'r cwmni yn Llundain yn ystod haf 1978.

Gwnaeth AS Rhondda ac Ogwr y sylwadau mewn cyfweliad â phapur The Sunday Times.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y National Youth Theatre eu bod yn "ddrwg iawn ganddyn nhw bod hyn wedi digwydd iddo fe ac i eraill sydd wedi rhannu eu hanesion o gam-drin hanesyddol gan yr un troseddwr gyda ni o'r blaen".

Roedd Mr Croft 40 mlynedd yn hŷn na Syr Chris - a oedd yn 16 oed ar y pryd.

Dywedodd iddo ddod nôl i gartref Mr Croft un noson a'i ganfod ond yn gwisgo cot nos sidan pan ddaeth e (Syr Chris) yn ôl o'r toiled.

Dywedodd fod Mr Croft wedi gofyn iddo am ryw wedyn, ac nad oedd ganddo ddewis ond mynd ymlaen â'r weithred a bod hynny wedi ei adael i deimlo fel ei fod yn "butain 16 oed".

Yn y cyfweliad cyn rhyddhau ei lyfr, dywedodd Syr Chris: "Dydw i ddim yn hoff iawn o adrodd hyn gan nad ydw i wedi gwneud yn aml.

"Roedd e wastad yr un bwyty Eidalaidd yn King's Cross. Byddai'n bwyta ac yn yfed, byddwn i'n bwyta, yna byddai'n addo rhoi lifft adref i fi ond roedd y daith bob amser yn gorffen yn ei dŷ ef."

Dywedodd Syr Chris na wnaeth Mr Croft drio unrhyw beth wedyn a bod y ddau wedi parhau i fod yn ffrindiau. Yn weinidog ordeiniedig, Syr Chris wnaeth gynnal angladd Mr Croft.

"Roedd o'n ymddwyn yn hollol erchyll, mae'n ffiaidd," ychwanegodd Syr Chris.

"Yn fy achos i fe wnaeth Michael lwyddo i ganfod rhywun oedd yn hoyw ar adeg pan oedd bron pob cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon - neu'n sicr yn cael ei wawdio'n fawr - felly tybiodd y byddai pobl yn cadw cyfrinach."

Dywedodd wrth The Sunday Times, er gwaethaf y cam-drin honedig, nad oedd yn difaru aros yn ffrindiau gyda Croft.

"Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod pobl sydd wedi llwyddo i fyw yn OK yn gallu adrodd y straeon hyn," meddai, gan ychwanegu, "mae fel bwlio - nes bod un person yn adrodd y stori, mae pawb arall yn meddwl mai nhw yw'r unig berson".

Dywedodd fod o leiaf un ffrind yn ystod ei ddyddiau gyda Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru wedi cael ei gam-drin gan Mr Croft.

Dywedodd y dyn 63 oed hefyd fod pum AS gwrywaidd wedi ymosod yn rhywiol arno yn ystod ei gyfnod yn San Steffan - nid yw wedi eu henwi nac wedi adrodd am y digwyddiadau honedig.

"Doedd dim system ar gyfer gwneud hynny ac roeddwn i'n ofni y byddai'n gwneud i mi edrych yn ddrwg," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod homoffobia yn y Senedd wedi lleihau yn ystod ei 24 mlynedd fel AS.

'Drwg iawn gennym'

Dywedodd datganiad ar wefan y TNational Youth Theatre eu bod yn "ddiolchgar i Chris Bryant am ddatgelu i'n tîm y cam-drin hanesyddol a ddioddefodd yn y cwmni yn y 1970au".

"Mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd iddo ef ac i eraill sydd wedi rhannu eu hachosion o gam-drin hanesyddol gan yr un troseddwr gyda ni o'r blaen.

"Fel y nodwyd mewn datganiad cyhoeddus ar yr achos yn 2017 rydym yn sefyll mewn undod â phob dioddefwr sydd wedi'u cam-drin ac yn annog unrhyw un sydd wedi profi cam-drin, waeth pa mor bell yn ôl, i siarad â rhywun a chael mynediad at gymorth."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig