Lili Jones: 5 peth i'w wneud yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Awydd diwrnod neu noson i ffwrdd o'r Maes Eisteddfod? Mae gan Wrecsam ddigon i'w gynnig...

Yma, y pêl-droediwr Lili Jones, fydd yn cael ei hurddo dydd Gwener ac sy'n un o gymeriadau'r gyfres Welcome to Wrexham, sy'n dewis rhai o'i hoff lefydd hi.

Ac fel rhywun sy'n byw dafliad carreg o'r Cae Ras, yn cefnogi'r Cochion ers oedd hi'n blentyn ifanc a bellach yn chwarae iddyn nhw, does na'm rhyfedd bod y bêl gron yn ddylanwad ar ei dewisiadau…

Lili jonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam jest wedi trawsnewid. Mae'r dre wedi dod yn fyw eto efo siopa yn agor ar bob cornel.

Roedd hi wedi mynd yn drist. Roeddech chi'n cerdded drwy'r dre a fasa neb o gwmpas ond rŵan mae 'na jest buzz.

Dyna, i fi, sydd 'di dangos bod y clwb pêl-droed yn gymaint o ran o'r dref.

Pan mae'r clwb yn gwneud yn dda mae'r dref yn gwneud yn dda - ac fel 'na mae.

Y Cae Ras a'r Turf

Dwi 'di cael season ticket ers o'n i tua chwech oed. Roedd Dad a fi yn mynd nos Fawrth a dydd Sadwrn pan doedd dim llawer o bobl yn mynd.

Calon y dre ydi o, so rhaid i chdi fynd yna. Y clwb pêl-droed ydi tref Wrecsam mewn ffordd. Mae 'na fwy i'r lle ond dyna sy'n 'neud y lle ac mae tafarn y Turf yn rhan enfawr o hynny.

I'r Turf oeddan ni'n mynd cyn gêm i gymryd bob dim mewn. Roedd Dad yn cael cwrw ac o'n i'n cael J2O. Mae'r clwb a'r pyb efo teimlad teuluol ac mae'r Turf jest yn pyb sy'n sbesial i fi a rwan mae o'n enwog mae'n grêt cael rhannu hynny efo gweddill y byd.

Ac roeddan nhw'n brilliant pam 'naeth Dad farw hefyd.

'Naeth y teulu, y Turf family 'da ni'n galw nhw, i gyd ddod at ei gilydd a 'naethon ni gyd gerdded Yr Wyddfa efo'n gilydd.

Dio'm jest yn pyb, mae'n gymaint mwy na hynny – lle mae pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau'r tîm ond hefyd pan mae pethau'n anodd mae pawb yn dod at ei gilydd a 'dan ni yna i'n gilydd.

Ac mae enw Dad ar y wal. Mae'n neis bod o'n cael bod yna am byth rwan – mae o'n special place i fi.

Lili gyda'i ffrindiau a theulu tu fewn a thu allan i dafarn The TurfFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hwyl yn y Turf: Lili gyda'i ffrindiau a'i theulu, gan gynnwys (llun chwith) ei thad Gareth Powell Jones o flaen y beic, a (llun dde) o flaen y wal sydd yn llawn enwau cefnogwyr Wrecsam, gan gynnwys un ei thad

Taith gelf

Mae Liam Stokes-Massey wedi gwneud murluniau massive yn y dre ac mae 'na daith gerdded o'i furluniau, dolen allanol o a gwaith celf gan lot o artistiaid gwahanol. Mae 'na rai wedi dotio o gwmpas Wrecsam i gyd.

Ti'n gallu cychwyn yn Tŷ Pawb, sy'n le rili cwl lle mae gen ti lot o siopa bach a llefydd bwyta. Mae fanna yn werth ei weld hefyd, a wedyn alli di fynd o gwmpas y dre yn gweld y gwaith.

Y murlun gorau gen i ydi'r un o gewri Wrecsam – rhai o'r players sydd 'di chwarae. Mae hwnna yn Dol yr Eryrod (canolfan siopa) ac os ti'n mynd i fanna gei di fynd i club shop newydd Wrecsam hefyd, sy'n werth ei gweld.

Murlun mawrion WrecsamFfynhonnell y llun, Liam Stokes-Massey
Disgrifiad o’r llun,

Hoff furlun Lili Jones - mawrion clwb Wrecsam, sy'n cynnwys Brian Flynn

Bwyd, diod a dawnsio

Ma'r High Street yn mynd o nerth i nerth. Mae 'na crawl eitha' da os ti'n cychwyn yn y gwaelod ac mae 'na pyb ar bob ochr i'r stryd yr holl ffordd fyny.

Ma' gen ti indie bar rili cŵl, The Parish, ac mae gen ti'r Rocking Chair hefyd sydd 'di dod yn venue grêt i live music. Maen nhw 'di agor dau sport bar newydd ac mae'r clwb 'di ail agor yng ngwaelod yr High Street.

Tua blwyddyn yn ôl ges i alwad i ofyn i fi agor bar Vault 33 - un o baria mwya posh yn Wrecsam os oes 'na such a thing. Neshi dorri'r ruban efo siswrn a 'naethon nhw fynd a fi i mewn ac roedd 'na furlun huge ar un o'r walia o hanes Wrecsam. Maen nhw wedi rhoi llun fi yn rhan ohono fo wrth ymyl rhai o'r greats - Joey Jones, Mickey Thomas, Jordan Davies. Mae hwnna werth ei weld.

Lili, Neil a Mia o flaen murlun o Lili JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Lili o flaen y murlun yn Vault 33, gyda'r perchennog Neil Roberts, oedd yn arfer chwarae gyda Wrecsam, a'i ferch Mia Roberts oedd yn cyd-chwarae i'r clwb gyda Lili

Roedd Mam yn gwybod bod fi yn y llun ond 'naeth hi ddim dweud wrthaf i. Roedd o bach o 'wow moment' i fi! Ro'n i bach yn emosiynol. Dwi ddim yn berson emosiynol iawn o gwbl ond gan bod fi wedi cael fy rhoi yna fel rhan o hanes clwb Wrecsam roedd o'n foment eitha' sbesial i fi.

Dwi'n meddwl bod clwb Wrecsam wedi bod mor bwysig yn rhoi llwyfan enfawr i bêl-droed merched.

Pan o'n i'n tyfu fyny doedd dim o idols fi'n genod achos oedd o ddim yn weledol i ni. Ond rŵan mae genod ifanc yn sbïo fyny atan ni sy'n chwarae i Wrecsam ac mae hwnna'n massive. Achos os ti'm yn gweld rhywbeth, ti'm yn gweld bod chdi'n gallu 'neud o.

 Lili yn dathlu gyda Ryan Reynolds a Rob McElhenney a chwaraewyr WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lili (ail o'r dde) yn dathlu gyda Ryan Reynolds (canol) a Rob McElhenney (chwith) - perchnogion Wrecsam - ym mis Mai 2023 yn dilyn tymhorau llwyddiannus i'r menywod a'r dynion

Felly mae Wrecsam yn grêt o ran mynd allan, ond o ran bob dydd hefyd mae'r caffis yn brilliant ac mae 'na ddigonedd o lefydd i fwyta.

Mae gen ti tapas Portuguese sy'n grêt, gen ti Safar sy'n meat house, gen ti steak house, ac mae gen ti ThaiDine. 'Naethon nhw agor o flwyddyn dwytha ac mae'r bwyd yn unbelievable.

Mae Café 11 yn lle bougie ac mae lot o bobl ifanc yn mynd yna. Roeddwn i a fy ffrindiau'n mynd yn aml yn chweched i gael smoothies achos roedd o'n edrych yn dda ar Instagram! Mae'n iach hefyd - pethau fel tôst efo afocado ac ŵy, bowlen o iogyrt a granola.

'Dan ni (tîm merched Wrecsam) yn ymarfer ar y cae bob nos Fawrth a nos Iau ac yn y gym ar nos Fercher ac wedyn yn trafaelio dydd Sadwrn i chwarae dydd Sul. Mae be' ti'n rhoi yn dy gorff yn bwysig i sut ti'n mynd i berfformio ar y cae pêl-droed.

Am dro

Mae Bersham - coedwig Plas Power yn lle braf. Mae 'na raeadr yng nghanol y goedwig ac mae'n walk rili, rili neis.

Ma'r goedwig bob ochr i chdi, gen ti walkway bob ffordd, mae 'na gapel bach ar y ffordd sy'n picturesque ac mae 'na stepping stones dros y rhaeadr i ddod rownd.

Dwi wedi cerdded yna o ganol dre ond mae o'n cymryd tua dwy awr i gyrraedd, felly ti angen car i fynd yna.

Lili gyda'i mam, Dionne, o flaen rhadaerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Lili yn mwynhau taith cerdded gyda'i mam, Dionne

Dyna lle o'n i'n mynd efo mêts fi yn yr haf, a nofio yn yr afon. Adeg Covid roedd o'n stunning achos doedd neb yna felly roedd fi a Mam yn cerdded yna a hi'n cymryd y golygfeydd i gyd i mewn. Mae'n lle rili heddychlon.

Saith Seren

Grwp pop a'r canwr yn pwyntio i'r cameraFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Osian, brawd Lili, yn perfformio gyda'i fand Catalyst yn y Saith Seren

Mae'r gymdeithas Gymraeg yn gryf yn fa'ma. Mae Osian, fy mrawd, yn lyfio ei fiwsig a 'naeth o ddechrau band a dyna lle gafon nhw eu llwyfan gynta'.

Maen nhw'n brilliant o ran hybu cerddoriaeth Cymraeg a rhoi llwyfan i rai sydd eisiau cychwyn 'neud gigs, yn enwedig artists lleol a rhai sydd yn 'neud miwsig Cymraeg. Ma' nhw'n rhoi jam night ar nos Fercher lle ma pobl yn cael mynd a chwarae gitâr a ballu o flaen bach o crowd.

Saith SerenFfynhonnell y llun, Saith Seren
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd tafarn gymunedol Saith Seren ei sefydlu yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 fel lleoliad i siaradwyr Gymraeg gymdeithasu

Wythnos Steddfod fydd 'na gigs bob nos. Maen nhw'n 'neud noson gomedi ar 8 Awst. Mae Hywel Pitts am fod yna felly fydd hwnna'n brilliant. Mae Geraint Løvgreen ac Andy Hickie ar y nos Lun. Mae Løvgreen yn massive Wrexham supporter a'i ganeuon o'n grêt. Mae 'na stwff da bob noson.

Dwi'n meddwl bod o'n mynd i fod y Steddfod orau. Dwi'n gwybod bod pawb yn d'eud hynny pan mae o'n dod i ardal nhw, ond mae o'n mynd i fod yn grêt.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.