Nene ene ene: Cyflwyniad i dafodiaith ardal yr Eisteddfod

Geiriau o dafodiaith ardal Rhos
  • Cyhoeddwyd

Nene, uffern, jacos... mae ardal Rhosllannerchrugog yn adnabyddus am sawl peth gan gynnwys ei thafodiaith unigryw.

Wrth i bobl o bob cwr o Gymru baratoi i fynd i'r ardal ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, yma mae golygydd papur bro Nene, Gwynne Williams yn egluro beth ydi ystyr a chefndir rhai o'r geiriau.

  • Bydd Gwynne Williams ar banel sy'n trafod y pwnc yn y Babell Lên ar ddydd Sul yr Eisteddfod. Mae ganddo hefyd golofn ar y dafodiaith - 'Be 'di nene ene' yn Nene, sef papur bro Rhos, gan gynnwys cerdd yn y dafodiaith.

Ene / nene

Ynys o Gymreictod ydy'r Rhos ac mae'r iaith yn gyfuniad o hen Gymraeg clasurol gogledd Powys a Chymraeg de ddwyrain Cymru— ardal y pyllau glo a'r gweithfeydd.

Mae ene a dene am 'yna' a 'dyna' yn gyffredin gan frodorion go iawn hen Sir y Fflint (gw. Daniel Owen). Ond fe ddywedodd y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones:

"Dim ond gan bobol y Rhos y clywais i nene am 'yr un yna'. Yno'n unig y clywais i'r ffurf ddwbwl hynod honno nene ene am 'yr un yna yn y fan yna' — hynny ydy, 'that one over there'. "

Ffurf ddwbwl? Dydy nene'n ddim byd, nag 'di? Tybed beth ddywede Bedwyr o glŵed y ffurf driphlyg ganlynol?

"Estyn y papur ne i mi 'ddar y gader!"

"Be y Cymro?"

"Nace, y Nene ene ene!"

Ono / one

Yn aml iawn yn lle 'mynd ene' fe fyddwn ni, am newid, yn 'mynd ono' (o 'yno') ond fyddwn ni byth yn 'dŵad ono'! 'Dŵad one' fyddwn ni.

Mae'n gyffredin yn yr ymadrodd 'tyrd one' (ynganiad tjyd one) yn yr ystyr 'come on/come along'. Fel efo nene ene ceir y ffurf ddwbwl unigryw 'tjyd one one'!

Felly gellid cael:

"Tjyd one one a tjyd â'r Nene ene ene gy'tha ti."

Âm / di-âm

Dywedodd yr Athro Bedwyr Lewis Jones hefyd:

"Pobol y Rhos sy'n dweud 'Ma gin i âm' gan olygu 'Mae gen i syniad/Rydw i'n meddwl'. Neu efallai mai'r hyn glywch chi ydy rhywun yn dweud nad oes ganddo ddim llawer o âm o berson arbennig — hynny ydy, nad oes ganddo ryw lawer o feddwl ohono.

"Y gair Saesneg aim sydd yma wedi ei fenthyg i'r Gymraeg ac wedi magu ystyr arbennig o 'amcan, syniad, meddwl'. Ac nid âm yn unig a glywch chi, ond di-âm hefyd. Bachgen di-âm ydi un anfedrus.

"Yn y Rhos pan mae'n dywydd gwael, dweud bod yr hin yn ddi-âm wnân nhw. Gyda llaw, hin ydy'r gair ene am dywydd. Climate ydy hin ymhob man arall yng Nghymru wrth gwrs."

Ond ma gynnyn ni ystyr pellach i di-âm nad oedd yr athro mae'n amlwg ddim yn gyfarwydd â fo.

Achos yn ogystal â'i ddefnyddio i ddeud bod rhofun (gair y Rhos am rywun) yn ddi-âm efo'i fysedd ne'i ddwylo mi rydan ni hefyd yn 'i ddefnyddio fo am rofun sy'n wael ne sâl o ran 'i iechyd.

Er enghraifft mae hwn a hwn yn ddigon di-âm yn 'i wely. Neu os oes ne fwy nag un ohonyn nhw yn ddi-âm yn 'u gwlau yn te? Ac os ydy rhofun yn cym'yd cam tua'r gwaetha bod pethe'n drychyd yn ddigon di-âm!

Bawedd

Daw hwn o bawaidd wrth gwrs ac yng Nghymru'n gyffredinol 'dirty' ydy'r ystyr ond i ni sâl / gwael ei iechyd ydy'r ystyr. Er enghraifft: "Maw'n fawedd yn ' i wely a ma pethe'n drychyd yn ddigon di-âm efow!" (Maw' sy'n cael ei ddefnyddio yn lle 'mae' yn nhafodiaith Rhos)

Bradgyfarfod

Ma ne eiriau yn ein tafodiaith sy'n bur ddieithr i weddill Cymru.

Bradgyfarfod ydi un ohonyn, gair welwch chi gan Theophilus Evans yn 1740 am bla o salwch a laddodd filoedd. Yn y Rhos mae'n air byw am annwyd neu dwymyn.

Mae'n debyg bod y gair yn mynd yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar ddeg o leiaf a'i ystyr yn wreiddiol oedd math o annwyd oedd ond yn para am ddiwrnod— ne ddwrnod i ni'n te? Be ma'r Seuson yn alw'n one day flu. Er rhaid i mi ddeud na chlywes i neb yn defnyddio'r ymadrodd ers Sul y pys.

Uswydd

Yn ôl Bedwyr Lewis Jones: "Mae'r gair yma'n digwydd, mewn pennill a luniodd y bardd Aneirin fil a phedwar cant o flynyddoedd yn ôl yn ei gerdd hir Y Gododdin.

"Dyma'r gerdd hynaf yn yr iaith o bosib ac fe gafodd ei hysgrifennu rywbryd yn y chweched ganrif i fyny yn yr ardal lle mae Caeredin heddiw. Roedd brwydr fawr wedi bod ac fe luniodd Aneirin benillion er cof am y milwyr a laddwyd.

"Ei union eirie yn yr achos yma oedd 'gwaewawr uswyd anghyfan' (gwaywffyn yn ddarne mân a ddim yn gyfan). I bobol y Rhos dyna'r gair o hyd heddiw am 'splinters'."

Doedd yr athro, mae'n amlwg, ddim wedi clŵed ein bod ni'n defnyddio'r gair yn 'i ystyr wreiddiol yn yr ymadrodd 'uswydd lode mân', sef 'aelodau [coese a breichie] wedi eu torri i ffwrdd mewn brwydr.'

Ac wrth gwrs ma rhai sy'n trio bod yn barchus yn 'i ddefnyddio yn lle 'uffern'!

Glywio / odi

Dydy hi byth yn bwrw glaw nag eira yn y Rhos a'r Poncie— glywio (glawio) ac odi y bydd hi. Unweth eto hen ffurf glasurol a thlws.

Clên

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru maw'n cael ei ddefnyddio ar lafar yn y Gogledd a'i ystyr ydy 'hynaws, hoffus, dymunol, hyfryd, hawddgar, braf.' Ond i ni yma yn Nene yr ystyr bron bob amser ydy 'hael' ynte? Er enghraifft:

"Dew! Ma Jo'n un clên. Maw'n sbwylio'r plant cw'n lân!"

Ond mi rydyn ni'n 'i ddefnyddio fo yn negyddol hefyd a dydy'i ystyr o ddim yr un fath o gwbwl bryd hynny! Er enghraifft:

"Dydy Wil ni ddim yn glên o gwbwl. Mi rodd o'n tagu trw'r nos neithiwr!"

Yn rhyfedd yr ystyr yma ydy 'sâl' neu 'wael', ynte? Ac yn rhyfedd does dim rhaid bod yn 'hollol' sâl, chwaith. Mi allech chi fod 'ddim hanner yn glên'. A mi rodd hyd yn oed bod ddim hanner yn glên yn ddigon i rai hen goliars golli tyrn.

(Ar y llaw arall ma bod 'ddim hanner yn glên' yn well nag un achos glywes i erstalwm. Rhofun yn cwyno wrth 'y Mam: "Dydy Ifor cw ddim hanner clên. Ddaru o gal trawiad marwol neithiwr. Ond maw'n well bore ma a 'di mynd at 'i waith!")

Ond dydy dau ystyr ddim yn ddigon i ni Jacos. Achos ma gynnon ni drydydd ystyr ne ddefnydd i 'clên'! Fel pan fyddwn ni'n deud:

"Glên gynna i tase fo'n mynd o dan 'y nhraed i!"

Ne "Glên tase hi'n stopio glywio am dipyn." ("Byddai'n dda tase hi'n stopio glawio am dipyn").

Uffern / Jacos

Ma Rhosllannerchrugog yn cael ei nabod fel Rhos Uffern wrth gwrs oherwydd yr arferiad o ddefnyddio'r gair yn aml mae'n debyg ond fel Uffen y byddwn yn cael ei ynganu gynnon ni Jacos. Pam Jacos? Dim syniad!

Ysŵeth, er mod i 'di defnyddio'r Modd Presennol drw'r sylwade yma mi ddylswn fod wedi defnyddio'r Gorffennol a'r Amherffaith.

Oherwydd i gael tafodiaith rhaid wrth dafode a does dim llawer o dafode ar ôl yma bellach. Na llefydd cymdeithasol i'w defnyddio— maen nhw i gyd 'di cau i lawr, uffen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.