Dydd Gŵyl Drygioni

  • Cyhoeddwyd

Os ydych chi eisiau achosi trafferth i Lywodraeth yn y Cynulliad mae un wythnos yn rhagori ar bob wythnos arall ac wythnos Gŵyl Dewi yw honno. Dyna'r wythnos lle mae gweinidogion Cymru yn teithio i bedwar ban byd i farchnata Cymru ac ymuno yn nathliadau'r alltudion.

Pryd gwell felly i'r gwrthbleidiau gyflwyno cynnig dadleuol, cynnig o ddiffyg hyder efallai, a fyddai'n gorfodi i'r holl drefniadau hynny fynd ar chwâl gan orfodi i aelodau'r cabinet ddychwelyd i Gaerdydd i achub croen y Prif Weinidog?

Y tu ôl i'r llenni mae rhai yn y Llywodraeth yn ofni y bydd y gwrthbleidiau yn achub ar eu cyfle ac yn sicr mae 'na ambell i Geidwadwr yn awchu am siawns i golbio Carwyn Jones mewn dadl o'r fath.

A fydd y gwrthbleidiau yn achub ar y cyfle am gudd ymosodiad felly?

Yn bersonol rwy'n amheus. Er y byddai'n rhaid canslo'r holl ymweliadau yna does dim dwywaith y byddai'r llywodraeth yn ennill y bleidlais ar ddiwedd y dydd ac yn cyhuddo'r gwrthbleidiau o chwarae plant bach yn y Bae tra roedd gweinidogion Cymru yn batio dros eu gwlad. Rwy'n amau y byddai sawl etholwr yn teimlo'r un peth.

Y gwir plaen amdani yw bod tynged y Prif Weinidog i raddau helaeth iawn yn nwylo aelodau'r grŵp Llafur. Os ydy'r gwrthbleidiau mewn gwirionedd yn deisyfu gweld ei ddiwedd y peth olaf i wneud yw gorfodi pleidlais a allai orfodi undod ar grŵp digon rhanedig.