Twyll casgenni cwrw: Dirwy i gwmni o Borthmadog

  • Cyhoeddwyd
dawsonsFfynhonnell y llun, Google

Mae cwmni manwerthu diodydd o Wynedd wedi cael gorchymyn i dalu dros £11,000 mewn dirwyon a chostau, ar ôl cyfaddef newid dyddiadau ar gasgenni cwrw.

Fe blediodd cwmni Dawsons o Borthmadog yn euog i weithredu gyda'r bwriad o dwyllo, a chyhuddiadau eraill yn ymwneud â chamarwain drwy hysbysebion.

Mae Dawsons, gafodd ei sefydlu mwy na 30 mlynedd yn ôl yn cyflenwi diodydd i nifer o dafarndai a bwytai yn y gogledd, yn ogystal â nifer o wyliau a digwyddiadau awyr agored.

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod swyddogion o Gyngor Gwynedd wedi cynnal archwiliad ar safle'r cwmni, ar ôl derbyn gwybodaeth gan ymchwilwyr preifat oedd yn gweithio ar ran cwmni Heineken.

Cafodd 54 casgen yn cynnwys cwrw nifer o fragdai gwahanol eu darganfod gyda gwybodaeth a dyddiadau ffug arnynt.

Dywedodd cyfreithiwr y cwmni wrth y llys, mai "cyfran fach iawn" o gyfanswm casgenni'r cwmni oedd wedi eu labelu gyda gwybodaeth ffug, ac nad oedd dim i awgrymu nad oedd y cwrw'n ddiogel i'w yfed.

Roedd Dawsons wedi cyd-weithio'n llawn gyda'r awdurdodau drwy gydol yr ymchwiliad.