Pedwar Polyn

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na gwestiynau dyrys yn wynebu Cymru ar ôl Brexit ond mae un cwestiwn arbennig yn achosi tipyn o gur pen i rai o weision ac aelodau'r cynulliad ar hyn o bryd sef pa faneri y dylai chwifio y tu allan i adeiladau'r cynulliad ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd mae tair set o bolion y tu fas i'r Senedd, Tŷ Hywel a phencadlys y gogledd ym Mae Colwyn yn chwifio'r Ddraig Goch, Jac yr Undeb, baner Ewrop a baner y cynulliad. Mae'r olaf o'r baneri hynny'n cael ei disodli o bryd i gilydd gan faneri eraill megis baner yr enfys, baner y Gymanwlad ac yn y blaen.

Afrad dweud efallai mai baner Ewrop yw asgwrn y gynnen. Fe fyddai gweld y cylch o sêr yn chwifio y tu fas i'r Senedd ar ôl i Brydain adael yr Undeb yn dân ar groen y Brexitwyr ond mae eraill yn benderfynol o'i chadw.

Dadl ffans y faner yw ei bod yn cynrychioli cyfandir Ewrop yn ogystal â'r Undeb Ewropeaidd. Fe'i lluniwyd gan Gyngor Ewrop, corff na fydd Prydain yn ei adael flwyddyn nesaf, yn ôl yn 1955. Aeth tri degawd heibio cyn i'r Undeb ddechrau ei defnyddio.

Llywydd y Cynulliad sydd â'r gair olaf ynghylch baneri'r Senedd ac mae'r Prif Weinidog yn wynebu penderfyniad tebyg ynghylch adeiladau'r Llywodraeth. Pa bynnag benderfyniadau sy'n cael eu gwneud fe fydd chwifio neu beidio chwifio'r faner yn cael ei weld fel datganiad gwleidyddol.

Hwyrach fod angen dadl ar lawr y Cynulliad. Prynwch eich pop corn nawr.