'Gobaith' am ddyfodol i hen adeiladau gwag Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
hen lys Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Mae adeilad hen lys Rhuthun yng nghanol Sgwâr San Pedr ac yn dyddio nôl i'r 1420au

Mae Cyngor Tref Rhuthun yn gweithio ar gynllun i brynu un o adeiladau pren mwyaf eiconig yr ardal.

Ers i fanc NatWest gau rai misoedd yn ôl, mae'r hen lys ar Sgwâr San Pedr wedi bod yn wag.

Ond mae'r cyngor yn gobeithio prynu'r adeilad - sydd ar y farchnad agored - a'i droi'n adnodd i'r gymuned.

Daw hyn wrth i Gyngor Sir Ddinbych oedi gyda'u cynllun nhw i symud llyfrgell y dref o'i safle presennol yn sgil pryder am adael adeilad hanesyddol arall yn wag.

'Mor bwysig'

Gobaith y cyngor tref ydy troi'r hen lys ar y sgwâr - gafodd ei godi yn y cyfnod ar ôl gwrthryfel Owain Glyndŵr yn y 15fed ganrif - yn "ganolbwynt" i'r dref.

Gallai olygu cael lle parhaol i rai o'r creiriau sydd yn nwylo'r cyngor, a rhoi lle i hybu atyniadau a busnesau eraill sydd o gwmpas Rhuthun.

"Mae'r adeilad mor bwysig ac mae o mor [weledol] yn y dre'," meddai'r cynghorydd Gavin Harris.

"Mae 'na ddefnyddiau eraill fuasai ddim yn bwrpasol [achos] natur yr adeilad a'r rhwystrau sydd 'na.

"'Dan ni'n gobeithio bydd NatWest yn cefnogi bod pobl y dre' a bod Rhuthun isio perchnogi'r adeilad yma, i ni ei brynu o a'i ddatblygu er lles y dre'."

Ym mis Ebrill, bydd banc Barclays yn dilyn esiampl NatWest ac yn cau eu cangen, gan godi pryderon am adeilad gwag arall yng nghanol y dref.

Mae un o'r safleoedd hanesyddol ond gwag yn nwylo Cyngor Sir Ddinbych, sef rhan o Garchar Rhuthun oedd yn arfer cael eu defnyddio fel swyddfeydd.

Roedd pryder am gael mwy o adeiladau o'r fath sydd heb eu gwerthu yn ffactor pan benderfynodd y cyngor ym mis Ionawr na fyddan nhw'n symud y llyfrgell o'i safle presennol am y tro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn hapus i weld y llyfrgell yn aros lle mae o

Byddai symud y llyfrgell o'r adeilad - hen lys arall o'r 18fed ganrif - i Neuadd y Sir yn arbed £45,000 y flwyddyn i'r awdurdod lleol - ond hynny ar yr amod bod yr adeilad yn cael ei werthu, yn ôl y cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

"Y teimlad ydy na fyddai adeilad fel 'ma, sy'n hanesyddol, yn hawdd i'w addasu yn y dyfodol na denu busnes i'w brynu o," meddai.

"I fi, dwi'n teimlo'i bod hi'n bwysicach ein bod ni'n cadw adeilad fel 'ma yn llawn, yn brysur, efo bwrlwm, fel ei fod o ddim yn sefyll a gwastraffu ar ochr y ffordd."

Dydy dyfodol hirdymor y llyfrgell ddim yn gwbl sicr, gan fod disgwyl i'r cyngor sir adolygu eu safbwynt ymhen blwyddyn.

O ran cynlluniau'r cyngor tref, mae disgwyl mwy o fanylion am eu gobeithion yn ddiweddarach yn 2018.